Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor yn galw ar drigolion i gefnogi Apêl Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol

Image of Cllr Matthew Dorrance joins Poppy Appeal volunteers at Tesco in Llandrindod Wells to collection for this important cause.

1 Tachwedd 2023

Image of Cllr Matthew Dorrance joins Poppy Appeal volunteers at Tesco in Llandrindod Wells to collection for this important cause.
Mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i gefnogi Apêl Flynyddol Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol a bod yn falch wrth wisgo pabi coch.

Mae Apêl y Pabi Coch yn rhedeg hyd at Sul y Cofio ar 12 Tachwedd, a bydd yr arian a godir yn helpu'r Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnig cymorth hanfodol i aelodau presennol a chyn aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd, i gynnig arweiniad a chefnogaeth arbenigol wrth adfer a phontio i fywyd sifil, trwy gydol y flwyddyn.

Ar ddydd Mawrth 31 Hydref, mae'r Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, wedi ymuno â gwirfoddolwyr Apêl y Pabi yn siop Tesco yn Llandrindod i gasglu ar gyfer yr achos pwysig hwn.

"Rwyf yn falch iawn i wisgo pabi, ac rwyf yn falch hefyd fod y cyngor yn cefnogi Apêl Pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol," meddai'r Cyng. Dorrance.

"Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni a gwisgo pabi yn arwydd o'n teyrnged i bawb sydd wedi aberthu cymaint i ddiogelu ein ffordd o fyw. Mae pob ceiniog a gesglir yn cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog i gael y cymorth a chefnogaeth hollbwysig sydd eu hangen arnynt.

"Rwyf yn gobeithio y bydd trigolion Powys yn parchu'r cyfnod o dawelwch am ddwy fund ar Ddydd y Cadoediad, yn ogystal â mynd i'r gwasanaethau lleol ar y diwrnod hwnnw, wrth inni dalu teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu'r wlad heddiw, yn ogystal ag anrhydeddu'r dynion a'r merched a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd."

Dywedodd Dave Hurley, Trefnydd Apêl y Pabi yn Llandrindod: "Mae'r Lluoedd Arfog yn cyflawni eu rôl gyda dewrder a gostyngeiddrwydd, ond yn aml maen nhw'n chwarae lawr yr aberth a'r dewrder sydd eu hangen i wasanaethu.

"Ni fyddant yn dweud wrthych beth mae'n ei olygu i ffarwelio ag anwyliaid a wynebu'r posibilrwydd o beidio byth â dod adref.  Gall fod yn anodd dychmygu'r peryglon a wynebir ac aberth dynion a menywod ein Lluoedd Arfog.

"Yn ystod Apêl y Pabi a thrwy gydol y flwyddyn, rydym yn darparu cefnogaeth i aelodau'r Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Drwy wneud rhodd, gallech helpu'r rhai mewn angen o fewn cymuned ein Lluoedd Arfog."