Powys yn cefnogi Wythnos Siarad Arian 2023
2 Tachwedd 2023
Nod Wythnos Siarad Arian yw lleihau'r stigma sy'n ymwneud ag arian trwy annog sgyrsiau ymhlith pawb, o deuluoedd a ffrindiau i gydweithwyr a chymunedau. Bydd yr wythnos yn cael ei chynnal rhwng 6-10 Tachwedd.
Fel rhan o thema eleni, mae'r cyngor yn gofyn i bawb gymryd rhan a 'gwneud un peth'. Gallai hyn fod yn rhywbeth mawr, fel creu cyllideb fanwl neu edrych yn agos ar bensiwn, neu rywbeth bach fel siarad â phlentyn am arian poced neu archwilio gwefan HelpwrArian.
Bydd trigolion hefyd yn cael eu hannog i siarad ag eraill am yr hyn y gwnaethon nhw a pham, yn y gobaith o'u hysbrydoli i gymryd rhan.
Dywedodd y Cyngh. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'n wych cefnogi Wythnos Siarad Arian. Dros y blynyddoedd mae siarad am arian wedi dod yn dasg anodd iawn i lawer o bobl ac mae wedi creu stigma, felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi'r diwrnod hwn ac yn annog pobl i siarad am eu sefyllfa ariannol.
"Yn yr hinsawdd sydd ohoni, gyda nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae angen cymaint o help ag sy'n bosibl ei gael, felly beth am ddechrau trwy gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian eleni a chefnogi eich hun yn ogystal â'r rheiny o'ch cwmpas."
Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau: "Mae Wythnos Siarad Arian wedi tyfu bob blwyddyn ac rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, felly mae'n bryd siarad manylion. Dyma pam rydym yn gofyn ac yn ysbrydoli pobl i 'wneud un peth' a chymryd cam arall tuag at wella eu lles ariannol, gan ddweud wrth eraill amdano.
"P'un a yw'n rhywbeth bach, fel dechrau sgwrs, neu rywbeth mawr, fel gwneud penderfyniad gwybodus tymor hir, mae hwn yn gyfle i bawb gymryd rhan a manteisio ar y buddion.
"Mae gennym y syniadau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar ein gwefan, ynghyd â'r teclynnau i'ch helpu i ddechrau, felly byddwn yn annog pawb i feddwl am yr hyn sy'n gweithio iddynt. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn helpu pawb i wneud y gorau o'u harian a'u pensiynau. "
Lansiwyd Wythnos Siarad Arian yn 2020 gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Y llynedd, cefnogwyd Wythnos Siarad Arian gan gannoedd o sefydliadau, gan gynnwys banciau mawr, amrywiaeth o adrannau'r llywodraeth, ymddiriedolaethau'r GIG ledled y DU ac elusennau fel Cyngor ar Bopeth a Money and Mental Health, gyda disgwyliad y bydd hyd yn oed mwy yn cymryd rhan y tro hwn.
Mae cymryd rheolaeth o arian, siarad yn agored amdano a rhannu'r baich y gall pryderon ei achosi yn aml yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar ein hiechyd a'n perthnasoedd. Mae hefyd yn helpu rhywun i wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus.
Am fwy o wybodaeth ar Wythnos Siarad Arian ewch i www.maps.org.uk/talk-money-week/