Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adfer Camlas Maldwyn - ail gam y gwaith carthu ar y gweill

Montgomery Canal between Llanymynech and Maerdy

2 Tachwedd 2023

Montgomery Canal between Llanymynech and Maerdy
Mae Glandŵr Cymru, yr ymddiriedolaeth camlesi ac afonydd yng Nghymru, wedi dechrau ail gam y gwaith carthu ar Gamlas Maldwyn fel rhan o'r ymdrech i adfer y gamlas 200 oed. Y nod yw caniatáu i gychod ei defnyddio unwaith eto a diogelu'r ddyfrffordd hon o waith dyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae degawdau o waith gan wirfoddolwyr a phartneriaid wedi cyfrannu at adferiad Camlas Maldwyn. Bellach, mae dros bedair milltir o'r gamlas rhwng Llanymynech a Maerdy yn cael ei hadfer diolch i gais llwyddiannus gan Glandŵr Cymru i'r Gronfa Ffyniant Bro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth Partneriaeth Camlas Maldwyn.

Bwriedir adfer y sianel fel y gall cychod ddefnyddio'r ddyfrffordd am y tro cyntaf ers y 1930au. Bydd hefyd yn helpu i wneud y gamlas yn haws i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau di-fodur, fel canŵio a phadlfyrddio.  Ar ben hynny, bydd y gwaith adfer yn creu cynefin eang a chynaliadwy i gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt a'r llyriad-y-dŵr arnofiol gwarchodedig sydd ar y gamlas.

Bydd y gwaith carthu diweddaraf hwn yn cael ei rannu'n ddwy ran. Bydd y rhan gyntaf, a gaiff ei chwblhau yn y flwyddyn newydd, yn golygu carthu bron i filltir o'r ddyfrffordd o Bont 99 i Ddyfrbont Efyrnwy. Bydd y gwaith hefyd yn agor y gamlas drwy dorri llystyfiant sydd wedi gordyfu a sicrhau bod coed peryglus neu wedi'u heintio yn cael eu tocio neu eu symud fel y bo'n briodol. Bydd yr ail ran, ychydig dros hanner milltir o Bont 101 i Bont 102, yn sefydlogi'r glannau gan ddefnyddio matiau coira stanciau pren, a fydd yn rhoi glan feddal i'r gamlas ac yn ddelfrydol ar gyfer bywyd gwyllt fel llygod y dŵr, adar gwyllt ac infertebratau. Bydd y cam hwn yn dechrau ym mis Ionawr ac wedi'i gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

Dywedodd Kathryn Woodroffe, rheolwr prosiect adfer Camlas Maldwyn: "Mae'r broses garthu hon yn gam cyffrous arall yn y gwaith o adfer Camlas Maldwyn.

"Ein nod yw sicrhau dyfnder safonol i gychod ddefnyddio'r gamlas a sicrhau llystyfiant a gorchudd coed a fydd yn gwella ac yn diogelu ecosystem amrywiol y gamlas.

"Mae'r llyriad-y-dŵr arnofiol gwarchodedig sydd yng Nghamlas Maldwyn, yn tueddu i ddilyn y llinell gysgodol, felly byddwn yn edrych ar gynnal a chadw canghennau crog, lle mae'n ddiogel gwneud hynny, er mwyn darparu'r amgylchedd delfrydol i'w hannog i dyfu. Bydd y gwaith hefyd yn rhoi cyfle i ni greu a chynnal cynefin eang ac amrywiol i ddenu bywyd gwyllt."

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Rwy'n falch iawn o weld mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar y prosiect hwn sydd â'r nod o ddarparu buddion economaidd, diwylliannol a lles hirdymor i gymunedau lleol, fel rhan o'n cynlluniau i wneud Powys yn lle cryfach, tecach a gwyrddach i fyw, a hoffem gyrraedd y nod hwnnw trwy gael dyfrffordd sy'n cael ei rheoli'n dda ac sy'n gyforiog o fywyd gwyllt."

Yn ystod gwaith carthu, bydd y llwybr troed yn cael ei ddargyfeirio, a bydd yn mynd ar draws tir fferm Pont-y-Person o lwybr tynnu'r gamlas.

Dysgwch fwy am brosiect adfer Camlas Maldwyn ar-lein yn canalrivertrust.org.uk, lle gallwch hefyd ddysgu mwy am sut i gyfrannu neu wirfoddoli gyda Glandŵr Cymru. Mae gwybodaeth hefyd am ymgyrch Keep Canals Alive, sef yr elusen sy'n mynnu bod llywodraeth y DU yn gweithredu i ddiogelu dyfodol y rhwydwaith o gamlesi sydd mor annwyl i ni.