Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Powys i elwa o grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Image of a wooden leaky dam

6 Tachwedd 2023

Image of a wooden leaky dam
Mae Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau £676,728 o Raglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru.  Nod y rhaglen ddwy flynedd hon yw darparu atebion rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, ac mae'n dilyn y gwaith a wnaed eisoes o dan y rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2020-23 flaenorol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pedwar cynllun gwahanol ar draws y sir:

1.   Cynllun 2 Rheoli Llifogydd yn Naturiol yr Afon Uwch Tefeidiad £200,000

Mae'r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren (SRT) ac mae'n parhau â'r gwaith da a gyflawnwyd o dan raglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2020-23. Gan weithio gyda thirfeddianwyr, mae'r defnydd o ystod eang o Reoli Llifogydd yn Naturiol gan gynnwys argaeau coediog sy'n gollwng, creu ardaloedd wedi'u sgrafellu, byndiau a phyllau, plannu gwrychoedd a choed traws-lethr a chyflwyno coetir afonol.  Bydd pob un yn darparu budd o leihau perygl o lifogydd yn y dalgylch, gan ganolbwyntio'n bennaf ar Dref-y-clawdd.

2.   Prosiect SiOL (Datrys problemau ymdrin â Thir Anhydrin) £191,728

Dan arweiniad Sefydliad y Gwy a'r Wysg (WUF), mae'r prosiect SiOL wedi'i rannu'n ddau becyn: Yn y pecyn Onnau Fach (Llangatwg) mae WUF yn gweithio gyda'r Grŵp Llifogydd Cymunedol lleol i edrych ar osod mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol amrywiol, megis argaeau coediog sy'n gollwng, waliau ffin sy'n gollwng, pyllau, gwrychoedd traws-lethr a phlannu coetiroedd, ac ati.

Yn y pecyn Wysg Uchaf mae'r WUF yn gweithio gyda thirfeddianwyr wrth lednentydd Nant Bran ac Ysgir i gynnal ymarfer astudio sy'n dylanwadu ar ba ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol y gellid eu cyflwyno yn y dyfodol, ynghyd â rhoi gwybod i dirfeddianwyr pa opsiynau Cynllun Ffermio Cynaliadwy y gallent wneud cais amdanynt.

3.   Cynllun Argae Coed sy'n Gollwng ar Raddfa Dalgylch £85,000

Bydd y cynllun, a ddarperir gan Tirweddau Cymru Landscapes Wales, yn gweithio gyda thirfeddianwyr i dreialu ymyriadau strwythurau pren sy'n gollwng ac sy'n risg isel a chost isel mewn gwahanol safleoedd ym Mhowys, yn amodol ar gytundeb cymunedol. Y nod yw hybu sgiliau ac ymwybyddiaeth ynghylch gosod mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gyfer y cymunedau yn yr ardaloedd hynny.

4.   Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gyfer Nant Abel ac Afon Cain £200,000

Mae'r cynllun hwn hefyd yn cael ei ddatblygu gan yr SRT ac mae'n estyniad i'r gwaith a gwblhawyd o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy. Mae ystod eang o fesurau wedi'u cynllunio i gynnwys rhwystrau sy'n gollwng, plannu coed, gwrychoedd a gwlyptir. Mae'r ffocws ar fod o fudd i gymunedau fel Llanfyllin a Llanfechain.

Wrth groesawu'r newyddion am ddyraniad y grant, dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym i gyd yn ymwybodol o effeithiau dinistriol llifogydd, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid a chymunedau i ddod o hyd i atebion ymarferol, cynaliadwy sy'n seiliedig ar natur i leihau'r perygl o lifogydd ledled Powys.

"Mae'r gwaith o Reoli Llifogydd yn Naturiol, tra'n darparu budd o ran rheoli perygl llifogydd, hefyd yn cefnogi gwelliannau amgylcheddol ehangach trwy gyflwyno cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a gwell ac arferion rheoli tir mwy cynaliadwy yn ein hardaloedd gwledig.