Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tyfu eich busnes gyda grant o hyd at £25k

People working in lots of different industries

6 Tachwedd 2023

People working in lots of different industries
Gallai busnesau ym Mhowys sydd â chynlluniau i ehangu neu sicrhau eu dyfodol mewn cyfnod heriol fod yn gymwys i dderbyn Grant Twf gan y cyngor sir.

Mae symiau o rhwng £1,000 a £25,000 ar gael ar ôl i'r cyngor sicrhau cyfanswm o £393,000, gan Lywodraeth y DU, drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd yr arian hwn ar gael dros gyfnod o ddwy flynedd gyda'r ffenestr bresennol ar gyfer ceisiadau ar agor tan 5pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr. Yna bydd ail ffenestr yn agor ar 1 Ebrill 2024.

Gallai'r ddwy ffenestr hefyd gau'n gynnar os yw'r holl arian yn cael ei ddyrannu - £143,000 am y cyntaf a £250,000 am yr ail.

"Mae'r grantiau hyn yn cael eu darparu fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd yn ystod cyfnod anodd," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus, "fel rhan o'n nod ehangach o greu Powys cryfach, tecach a gwyrddach".

"Rydym yn awyddus i helpu busnesau yn y sir, a'r rhai sydd am symud i yma, ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys gwneud hynny trwy rwydweithiau lleol."

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect neu uchafswm o £5,000 fesul swydd a grëwyd a/neu £5,000 fesul swydd a ddiogelir, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd gyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael ymgeisio am y grant.)

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Twf Busnes Powys nawr: https://formbuilder.evolutive.co.uk/formsite/form/b2affb04-ccb4-4308-81d5-9b1a87527086

Gellir defnyddio'r arian i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw unwaith-yn-unig ond ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg arferol.

Mae'r gefnogaeth wedi'i hanelu'n bennaf at y sectorau canlynol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
  • Gwybodaeth, Technoleg a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Mân-werthu
  • Gofal

Bydd ceisiadau gan sectorau eraill, ac eithrio ffermio, pysgota, coedwigaeth a gwasanaethau statudol yn cael eu hystyried ar sail eu gwerth i'r economi leol.

Yn ddelfrydol, bydd y bobl sy'n cael swyddi, neu'n cael eu cadw mewn swyddi presennol, yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol: https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage

Gofynnir i fusnesau sy'n cymryd rhan hefyd ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru: https://businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/cynaliadwyedd-a-chyfrifoldeb-cymdeithasol/addewid-twf-gwyrdd

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Powys: Grant Twf Busnes Powys

Neu anfonwch e-bost i: regeneration@powys.gov.uk