Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfrydwch yn llwyddiant Gwobrau Plant Lluoedd Arfog a noddwyd gan y cyngor

The Powys winners

6 Tachwedd 2023

The Powys winners
Gwelwyd cryn dipyn o lwyddiant i Bowys mewn seremoni wobrwyo, a noddwyd gan y cyngor sir, a oedd yn dathlu llwyddiannau plant y lluoedd arfog o bob rhan o Gymru.

Cynhaliwyd Gwobrau Plant Lluoedd Arfog Cymru 2023 am y tro cyntaf erioed yn Ysgol Troedfilwyr Aberhonddu ddydd Sadwrn 28 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Cyngor ar gyfer y Lluoedd Arfog : "Gwych oedd gweld cynifer o blant y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael amser ardderchog yn y seremoni wobrwyo a chael cydnabyddiaeth am y gwaith maen nhw'n ei wneud i amlygu'r manteision a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu oherwydd eu cysylltiadau â'r lluoedd arfog.

"Rwyf mor falch ein bod ni wedi gallu noddi Gwobrau Plant Lluoedd Arfog Cymru eleni, a bod y Fyddin yng Nghymru wedi gallu cynnal y digwyddiad ym Mhowys. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol!"

Dyma enillwyr Powys:

  • Llysgennad y Flwyddyn Plant y Lluoedd Arfog - Noddwyd gan Gyngor Sir Powys: Arian - Beth Symmons
  • Gwobr Arwr Di-glod - Noddwyd gan General Dynamics: Aur - Shan Kenchington (Pennaeth Ysgol Babanod Mount Street), Arian - Delyth Marshman, Arian - Tara Rana
  • Gwobr Gymunedol Dan 11 oed - Noddwyd gan Your North: Aur - Samridhi Gurung, Efydd - Arushi Rai
  • Cyfraniad at Chwaraeon o dan 11 oed - Noddwyd gan Forces Fitness: Efydd - Freddie Scott
  • Aur AFFS Cymru:Ysgol Iau Mount Street

Darparwyd y digwyddiad gan Veterans Awards CIC mewn partneriaeth â SSCE Cymru, gyda chymorth oddi wrth y lluoedd arfog yng Nghymru.

Neges ddiolch Gwobrau Hen Filwyr a rhestr lawn o enillwyr: https://veteransawards.co.uk/2023/10/28/welcome-to-our-winners-at-this-years-service-children-awards-cymru-2023/

Mae'r gwobrau'n cydnabod yr ymdrech sy'n cael ei wneud i dynnu sylw at brofiadau plant a theuluoedd y lluoedd arfog.

LLUN: Enillwyr  Powys yn y seremoni wobrwyo gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys gan gynnwys Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Matthew Dorrance; y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ac Aelod ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu.