Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn canolbwyntio ar gymorth i gymunedau gwledig
8 Tachwedd 2023
Mae'r digwyddiad a'r rhaglen flynyddol sydd bellach wedi hen ennill eu plwyf wedi'u cydgysylltu gan CWMPAS a CYSUR, y byrddau diogelu rhanbarthol, a'u llunio mewn ymateb i rai o'r heriau y mae plant ac oedolion mewn perygl yn eu hwynebu yn y cymunedau ar draws y rhanbarth yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.
Mae uchafbwynt yr wythnos yn cynnwys cynhadledd a gynhelir ar 16 Tachwedd ar faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl.
Bydd gweithwyr proffesiynol sy'n chwarae rhan allweddol mewn diogelu plant ac oedolion yn ein cymunedau, gan gynnwys swyddogion heddlu, nyrsys, staff gofal cymdeithasol a gweithwyr addysg proffesiynol yn mynychu'r digwyddiad.
Mae digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod yr wythnos yn cynnwys:
- gweminar ar ddiogelu ein cymunedau a'n teuluoedd ffermio a gynhelir gan Awdurdod Lleol Ceredigion gyda chefnogaeth Tir Dewi
- gweminar ar raglen PREVENT a gwrthderfysgaeth sy'n canolbwyntio ar rai o'r ideolegau sy'n dod i'r amlwg y gall pobl agored i niwed ddod i gysylltiad â nhw
- digwyddiad ar atal hunanladdiad a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Benfro gyda chefnogaeth PAPYRUS (Atal Hunanladdiad Ifanc)
- digwyddiad i gefnogi ymarferwyr i reoli risg a thrawma, gyda chefnogaeth y ganolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol
- digwyddiad lansio ffurfiol o strategaeth ranbarthol newydd i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
"Nod yr Wythnos Ddiogelu yw codi ymwybyddiaeth ac amlygu materion sy'n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl yn ein cymunedau a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cefnogi'n well," meddai Jake Morgan, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cefnogir y rhaglen ranbarthol gan ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhelir ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys lansio fframwaith hyfforddi diogelu newydd i gyd-fynd â safonau a lansiwyd y llynedd gan Ofal Cymdeithasol Cymru a digwyddiad sy'n cael ei gynnal gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Manceinion a fydd yn cynnwys dadansoddiad thematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar o adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ranbarthol ar gael yn:
https://cysur.cymru/media/jounegzo/2023-programme-welsh.pdf
Gallwch ddilyn Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar
X (Twitter yn flaenorol) @CYSURCymru
Facebook @CYSURCymru
Instagram @cysurcymru