Datganiad ar y cyd arweinwyr mewn ymateb i ddatganiad y Ganolfan Dechnoleg
9 Tachwedd 2023
Cyhoeddodd y Cynghorydd Bryan Davies a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinwyr Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys ddatganiad ar y cyd: "Rydym yn naturiol yn pryderu am y cyhoeddiad a'r effaith bosibl ar unigolion a'r gymuned ehangach. Cyfarfu'r ddau ohonom â Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phrif Weithredwr CAT ddoe i gynnig ein cefnogaeth lawn. Mae CAT yn ased i Ganolbarth Cymru a'i heconomi - a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn.
"O ran Bargen Twf Canolbarth Cymru, rydym yn gweithio i ddeall y sefyllfa a'r effaith a ragwelir ar y cynnig am gyllid. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw brosiect wedi derbyn cyllid gan y Cynllun Twf oherwydd bod y prosiectau'n dal i weithio ar eu hachosion busnes. Mae dilyn canllawiau'r Llywodraeth yn gadarn yn hanfodol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n ddoeth mewn cynlluniau sy'n gynaliadwy yn y tymor hir.
"Ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."