Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sgam Llinell Ofal (Careline) Powys

Phone Scam

10 Tachwedd 2023

Phone Scam
Mae pobl sy'n byw ym Mhowys wedi'u hannog i fod yn wyliadwrus gan fod y cyngor wedi cal ar ddeall bod galwadau sgam ar led sy'n gysylltiedig â Llinell Ofal Powys.

Mae'r sgam yn gysylltiedig â'r newid i system ddigidol, lle bydd angen uwchraddio rhai offer Llinell Gofal Powys fel rhan o ofyniad Ofcom i ddarparwyr (BT, Openreach, EE, PlusNet, ac ati) ddiweddaru eu system ffôn i un ddigidol.

Mae sgamwyr yn manteisio ar y newid ac yn gofyn i drigolion drosglwyddo arian am wasanaethau nad oes angen iddynt dalu amdanynt. These calls are not being made by Powys County Council staff!

Ni fydd Llinell Ofal Powys yn galw cwsmeriaid yn ddiwahoddiad ac yn gofyn am arian neu fanylion banc dros y ffôn.

Os ydych yn bryderus, cysylltwch â Llinell Gofal Powys ar 01597 827639

Gallwch riportio twyll neu seiberdroseddu i Action Fraud ar-lein, ar unrhyw adeg: https://www.actionfraud.police.uk/reporting-fraud-and-cyber-crime

Neu ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am - 8pm.