Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwelliannau i Wasanaethau Cynllunio

Planning

10 Tachwedd 2023

Planning
Mae Gwasanaethau Cynllunio'r Cyngor Sir wedi cyhoeddi y bydd hi'n haws deall a chael pen ffordd ar y broses o wneud ceisiadau cynllunio ym Mhowys yn dilyn gwelliannau.

Mae'r gwasanaeth wedi lansio gwefan gynllunio newydd a gwell sy'n cynnwys canllaw cam wrth gam ar wneud cais am ganiatâd cynllunio yn Awdurdod Cynllunio Lleol Powys.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys, y Cynghorydd Jake Berriman; "Gall gwneud cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd neu ar gyfer gwaith ar strwythur sy'n bodoli eisoes fod yn broses frawychus."

"Rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau'n gwella ansawdd ceisiadau drwy arwain ymgeiswyr a'u hasiantwyr drwy'r broses o'r dechrau i'r diwedd.  Bydd hefyd o fudd i gymdogion, cymunedau a sefydliadau sydd â diddordeb gan eu tywys drwy'r system."

Mae'r wefan ar ei newydd wedd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am bynciau sef cynllunio a datblygu a ganiateir, gweithdrefnau cyn ymgeisio, cofrestru ceisiadau, cyhoeddusrwydd ac ymgynghori, penderfyniadau ac apeliadau.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gweithdrefn newydd ar gyfer gwneud newidiadau i geisiadau cynllunio yn ogystal â chwestiynau cyffredin, gan gwmpasu meysydd megis sut i gysylltu â'r gwasanaeth a sut i wneud sylwadau ar geisiadau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Berriman, "Mae'r newidiadau yn rhan o sawl gwelliant y mae'r Gwasanaeth Cynllunio wedi'u cyflwyno mewn ymateb i argymhellion mewn adroddiad gan Archwilio Cymru."

"Rydym hefyd wedi cryfhau ein tîm cynllunio i sicrhau bod gan drigolion Powys wasanaeth o ansawdd uchel a bod y Gwasanaeth yn uchel ei barch gan bob defnyddiwr.

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Gemma Bufton wedi'i phenodi'n ddiweddar fel yr Arweinydd Tim ar gyfer Rheoli Datblygu yn y Gwasanaeth a bod dau Gynllunydd Gorfodaeth wedi'u penodi i gefnogi ein gwasanaeth gorfodaeth gynllunio".