Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor Sir Powys yn arwyddo partneriaeth trawsffiniol arloesol

Image of Cllr James Gibson-Watt, Leader of Powys County Council; Cllr Lezley Picton, Leader of Shropshire Council; Cllr Mary Ann Brocklesby, Leader of Monmouthshire County Council; and Cllr Jonathan Lester, Leader of Herefordshire Council.

10 Tachwedd 2023

Image of Cllr James Gibson-Watt, Leader of Powys County Council; Cllr Lezley Picton, Leader of Shropshire Council; Cllr Mary Ann Brocklesby, Leader of Monmouthshire County Council; and Cllr Jonathan Lester, Leader of Herefordshire Council.
Mae Cyngor Sir Powys wedi arwyddo cytundeb arloesol heddiw (10 Tachwedd) â thri awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr.

Daeth Partneriaeth y Gororau Ymlaen i fodolaeth mewn digwyddiad swyddogol a gynhaliwyd yng Nghastell y Gelli Gandryll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y bartneriaeth newydd bydd Cyngor Sir Powys yn ymuno â Chyngor Swydd Henffordd, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Amwythig i ymgymryd â rhai o'r heriau mawr maen nhw i gyd yn eu rhannu.

Bydd y pedwar awdurdod lleol yn gweithio hyd yn oed yn agosach nawr at lywodraethau Cymru a'r DU i ddatblygu'r cydweithredu cyffrous trawsffiniol hwn.

Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd i sicrhau cymorth ariannu oddi wrth y ddwy lywodraeth yn ogystal ag amrywiaeth o bartneriaid eraill i ddatgloi rhagor o fuddsoddi ac archwilio ymagweddau newydd er mwyn gwireddu prosiectau mawr y bydd rhanbarth y gororau yn elwa ohonynt.

Mae gan yr awdurdodau lleol hyn, sy'n cynnwys 80% o'r tir sy'n ffinio Cymru a Lloegr, nodweddion a daearyddiaeth gyffelyb, ac maen nhw'n gorgyffwrdd o ran uchelgais i'r rhanbarth yn ei chyfanrwydd. Mae'r Bartneriaeth yn darparu ymrwymiad unigryw i weithio ar draws y ffin, ar draws gwledydd ac yn draws-bleidiol ar brif brosiectau sydd yn eu cyfanrwydd o'r lles pennaf i'r rhanbarth.

Mae trafnidiaeth, sgiliau a thai, ochr yn ochr ag ynni, newid hinsawdd, twristiaeth a chysylltedd digidol yn uchel ar yr agenda. Mae'r rhain i gyd yn faterion cyffredin i boblogaeth yr ardal sef bron 750,000.  Wrth weithio ynghyd, gobaith y pedwar awdurdod lleol yw darparu llwyddiannau traws ffiniol a datgloi miliynau o bunnoedd i fentrau dynodedig sy'n cefnogi economi gwledig y Gororau a thwf gwyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym ni'n wirioneddol frwdfrydig ynghylch yr hyn allwn ni ei gyflawni wrth weithio ynghyd. Rydym eisoes wedi elwa yn ystod y camau cynllunio wrth ffurfio dolenni cryfach rhwng awdurdodau, yn ogystal â gwell partneriaethau â sefydliadau cyfarwydd a newydd. Mae pobl am siarad â ni, ac mae hynny'n ddechreuad ffantastig.

"Mae'n ddyddiau cynnar iawn ond rydym eisoes wedi cytuno y bydd pob awdurdod yn arwain ar wahanol themâu ac y bydd ein gofynion i'r llywodraeth yn cael eu harwain gan dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar gymuned. Mae'n holl bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar ble y gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf a'n bod ni'n brasgamu wrth droi uchelgais i mewn i weithredoedd.

"Mae gymaint gennym yn gyffredin fel partneriaeth ac rwy'n llawn cyffro am beth a ddaw yn y dyfodol."