Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dod â'ch tenantiaeth i ben

Os ddaw'r amser pan fyddwch am symud o'r cartref yr ydych yn ei rentu gan Bowys, mae yna rai pethau fydd angen i chi eu hystyried.

Cyfnod o rybudd

Mae angen i chi roi pedair wythnos o rybudd i ddod â'ch tenantiaeth i ben. Mae'r rhybudd yn dechrau ar y dydd mae'r Cyngor yn derbyn y rhybudd. I ddod â'ch tenantiaeth i ben, cwblhewch y ffurflen terfynu contract isod. Neu anfonwch e-bost i housing@powys.gov.uk neu anfonwch hysbysiad ysgrifenedig i:

Cyngor Sir Powys
Sganio Tai
Neuadd y Sir 
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Ar ôl i chi ddweud wrthym ni eich bod am derfynu eich tenantiaeth, bydd eich Swyddog Tai a Swyddog Ansawdd Tai yn ymweld â chi. Rydym ni'n gwneud hyn fel bod gennych y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am symud ac i'ch gwneud chi'n ymwybodol o'ch oblygiadau cyn i chi ddychwelyd eich allweddi.

Cwblhau'r Ffurflen Diweddu Contract ar-lein Ffurflen Terfynu Tenantiaeth

Difrod i'r eiddo

Pan symudoch chi i mewn, roedd eich cartref mewn cyflwr da, ac rydym ni'n disgwyl iddo gael ei adael fel hynny ar gyfer y preswylwyr nesaf. Bydd eich Swyddog Ansawdd Tai yn trafod unrhyw beth a fydd angen sylw efallai yn ystod ei ymweliad. Efallai byddwch chi'n gorfod talu os oes unrhyw ddifrod yn cael ei ganfod.

Ôl-ddyledion rhent

Byddwn ni'n gwneud popeth gallwn ni i'ch helpu i dalu unrhyw ddyled. Mae ein Swyddogion Cymorth Ariannol ar gael i drafod unrhyw ddyledion rhent allai fod yn ddyledus gennych.

Fodd bynnag, os na fyddwch chi'n gwneud unrhyw ymdrech i dalu unrhyw rent sy'n ddyledus, byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i gael y ddyled wedi ei thalu'n ôl. Gallai hyn hefyd arwain atom yn rhoi geirda anfoddhaol i unrhyw ymholiad oddi wrth landlordiaid y dyfodol.

Bydd anwybyddu dyled sydd heb ei thalu'n ôl yn effeithio ar unrhyw geisiadau am dai cymdeithasol yn y dyfodol.

Cysylltwch â Gwasanaethau Tai i drafod dyledion rhent Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol

Gadael eich eiddo cyn y dyddiad y cytunwyd arno

Os ydych chi am ddychwelyd eich allweddi yn gynnar, byddwch chi'n parhau i fod yn atebol am rhent tan y dyddiad a nodwyd yn eich rhybudd.

Gadael yr eiddo ar ôl y dyddiad a gytunwyd

Os na fyddwch chi'n dychwelyd eich allweddi tan ar ôl y dyddiad olaf a gytunwyd i'r denantiaeth, byddwch chi'n gorfod talu wythnos o rent, a bydd hyn yn parhau bob wythnos nes ein bod ni'n gallu cymryd yr eiddo yn ôl.

Clirio eitemau o'r eiddo

Pan fyddwch chi'n gadael yr eiddo, dylai eich holl eiddo a'r dodrefn gael eu cymryd oddi yno.

Yr unig adeg y gallwch chi adael eitemau yw pan y byddai'r preswyliwr sy'n symud i mewn yn elwa ohonynt, a'n bod ni wedi cytuno ar hynny.

Byddwn ni'n cael gwared ar unrhyw beth sy'n cael ei adael yn yr eiddo a bydd yn rhaid i chi dalu costau cael gwared ar yr eitemau hyn.