Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn agosáu at gyrraedd y nod yn 2024

Image of Growing Mid Wales logo

14 Tachwedd 2023

Image of Growing Mid Wales logo
'Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi gweld cynnydd da yn 2023 ac mae bellach bron â chyrraedd y 'cyfnod cyflawni'. Dyma yw'r diweddariad a rannwyd gyda gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Cheredigion mewn cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar y 9fed o Dachwedd.

Eleni mae'r Fargen wedi derbyn £4m o gyllid, y dyraniad cyntaf o gyllid gan y ddwy lywodraeth fel rhan o gytundeb a wnaed yn gynnar yn 2022.

Mae portffolio presennol Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn cynnwys cyfuniad o Raglenni a Phrosiectau sy'n anelu at hybu'r meysydd Blaenoriaeth Twf Strategol canlynol:

  • Ymchwil Gymhwysol ac Arloesi
  • Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod
  • Cynnig twristiaeth cryfach
  • Digidol
  • Cefnogi Menter

Gellir gweld crynodeb o bortffolio Bargen Dwf Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/portffolioBargenTwfCC  

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: "Roedd ein sgwrs gyda Gweinidogion y ddwy Lywodraeth yn gyfle i edrych tuag at y dyfodol yn bositif. Fe wnaethom fyfyrio ar ba mor bell y mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi datblygu eleni a sut y gall rhai o'r Prosiectau a'r Rhaglenni fod mewn sefyllfa i ddechrau cyflawni yn 2024. Bydd hyn yn arwain at greu swyddi, hybu gweithgarwch economaidd a denu buddsoddiad pellach i'n rhanbarth.

Ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yw parhau i gefnogi'r Prosiectau a'r Rhaglenni wrth iddynt ychwanegu rhagor o fanylion at eu hachosion busnes a chynllunio ar gyfer cyfleoedd buddsoddi pellach. Rydym am roi Canolbarth Cymru ar y map, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i roi gwybod i fuddsoddwyr ein bod yn croesawu mwy o gynlluniau ariannu i wireddu'n llawn y weledigaeth o gynyddu ffyniant yn ein rhanbarth.

Diolchwn i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, a Dr James Davies, Is-ysgrifennydd Seneddol (Swyddfa Cymru) Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfarfod hwn sy'n atgyfnerthu gwaith partneriaeth a'u hymrwymiad i Ganolbarth Cymru."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl ddatblygiadau Bargen Dwf Canolbarth Cymru cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau misol Tyfu Canolbarth Cymru. E-bostiwch:  tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk