Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Troi Dydd Gwener Du yn Wyrdd!

Image of a Black Friday sign

15 Tachwedd 2023

Image of a Black Friday sign
Mae tîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Powys yn annog pobl Powys i gynllunio Nadolig sy'n fwy cynaliadwy eleni a helpu i droi dydd Gwener Du yn wyrdd.

Mae tueddiadau defnyddwyr wedi altro'n ddramatig dros y blynyddoedd ac mae cynnydd o ran prynu ar-lein yn ein gwneud ni i gyd yn euog o gael ein swyno gan 'fargen' wrth i ni fynd ati i siopa 'Dolig. Gall y diwylliant prynu hwn gostio llawer o arian da i ni, a hefyd arwain at lawer o wastraff dianghenraid.

Eleni, cyn cael eich hudo gan fargeinion cyn y Nadolig, oedwch am ennyd, ac ailystyried ac o bosib ailfeddwl am eich arferion siopa. Efallai mai dyma'r adeg berffaith i ni i gyd wneud dewisiadau sy'n fwy cynaliadwy a allai helpu ein pocedi a'n hamgylchedd.

Cyngor da ar gyfer siopa 'Dolig sy'n fwy gwyrdd:

  • Ystyriwch beidio â phrynu o'r newydd. A allech chi ail-roi anrhegion diangen neu ddod o hyd i'r anrheg berffaith mewn siop elusen, safle gwerthu ail-law neu Freegle.
  • Rhowch anrheg sydd wedi cael ei wneud gartref. Jar o jam, blwch o fisgedi neu siwmper wedi'i gwau gennych chi. Byddai'r rhain yn anrhegion unigryw a meddylgar i rywun arbennig.
  • Os ydych chi'n clirio cyn yr ŵyl, rhowch yr eitemau diangen yna i elusen i eraill eu mwynhau a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ailgylchu unrhyw wastraff...gall hyd yn oed y goleuadau Nadolig yna sydd wedi torri gael eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
  • Gallwch hefyd wneud dewis gwyrddach wrth lapio anrhegion a rhoi cardiau - ceisiwch osgoi gliter a ffoil a dethol papur lapio a chardiau Nadolig y gallwch eu hailgylchu yn eich blwch ailgylchu glas ar ôl y Nadolig.
  • Peidiwch ag anghofio eich ffordd fawr leol. Mae'n aml yn llawer mwy o hwyl i brynu anrhegion a chyflenwadau'r ŵyl yn lleol. Mae hynny hefyd yn fwy amgylcheddol gyfeillgar ac yn sicr yn well i'n busnesau bach lleol.
  • Os fyddwch chi'n prynu ambell i beth ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ailgylchu'r holl becynnu yn gywir.
  • Mae bwyd yn rhan fawr o'r dathliadau Nadoligaidd ond ceisiwch eich gorau i beidio â gor-archebu - mae gwastraff bwyd yn gostus i chi ac i'r amgylchedd. Rhowch unrhyw sbarion yn eich cadi gwastraff bwyd a'i roi allan i'w gasglu gyda'ch ailgylchu bob wythnos.

"Mae llawer ohonom ni ym Mhowys eisoes yn gwneud ein rhan ac yn ailgylchu ein gwastraff, fodd bynnag gallwn ni i gyd wneud ychydig yn fwy o ran dewisiadau cynaliadwy sy'n berthnasol i faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu" dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae ailgylchu'n bwysig, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd, a'n waledi, drwy ddewis i fyw yn fwy cynaliadwy. Wrth oedi am ennyd yn unig, ac ailystyried ac o bosibl ailfeddwl am ein harferion siopa, gallwn ni oll helpu i wneud y Dydd Gwener Du hwn yn wyrddach a mwynhau llai o wastraff y Nadolig hwn."