Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhaglen Gydbwyso yn dychwelyd i ofalwyr di-dâl Powys

Nikki Thomas-Roberts

16 Tachwedd 2023

Nikki Thomas-Roberts
Bydd rhaglen sy'n helpu gofalwyr di-dâl Powys i gydbwyso'u hanghenion gofal eu hun ag anghenion y rhai maen nhw'n gofalu amdanynt, yn dychwelyd. 

Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cwrs 8 wythnos am ddim ynghylch byw'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar, gan ddechrau ddydd Gwener 24 Tachwedd. 

Bydd Rhaglen Cydbwyso Powys, sy'n cael ei darparu i'r academi gan Phoenix Mindful Living, yn rhedeg o 9.30 - 11.30am ddyddiau Gwener ar Microsoft Teams.

Mae'r cwrs ar gael i ofalwyr di-dâl yn unig, boed eu cyfrifoldeb yn rhan amser neu'n llawn amser, a nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael.

Dywedodd Nikki Thomas-Roberts, o Phoenix Mindful Living, a fydd yn arwain y sesiynau: "Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi ag offer, technegau a phrofiad o ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i adeiladu gwytnwch, rheolaeth emosiynol a hyder.

"Mae'n addas i unrhyw un sy'n wynebu newid a allai fod yn creu teimladau o or-bryder neu drallod, a hoffai adeiladu hunan hyder, dysgu am hunan dosturi a charedigrwydd, neu a hoffai ddyfod yn fwy hunan ymwybodol. Gallwn ni eich grymuso i'ch helpu i ymdopi â bywyd.

I ddarganfod rhagor, neu archebu lle, e-bostiwch Nikki: phoenixmindfulliving@gmail.com 

Mae gofalwr di-dâl yn ofalwr sy'n gofalu ar ôl aelod o'r teulu, partner neu ffrind sydd angen help oherwydd salwch, anabledd neu sy'n gaeth, ac nad yw'n derbyn cyflog am ddarparu'r gefnogaeth.

LLUN: Nikki Thomas-Roberts, hwylusydd y cwrs.