Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Afon Hafren yn ennill nawdd o £3.75m i hybu menter di-wifr

Image of River Severn in Llanidloes

16 Tachwedd 2023

Image of River Severn in Llanidloes
Dyfarnwyd £3.5m i Bartneriaeth Afon Hafren (PAH) oddi wrth y Llywodraeth i gefnogi twf arloesi di-wifr a thechnoleg yn rhai o'i sectorau economaidd allweddol.

Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys yr wyth cyngor yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnwys dalgylch Afon Hafren, gan gynnwys Powys, ac mae'n un o ddeg Rhanbarth Arloesi DU i ennill nawdd.

Bydd prosiect y Rhaglen Arloesi yn ymgysylltu, annog a mabwysiadu technoleg Cysylltedd Di-wifr Uwch i mewn i galon sectorau blaenoriaeth PAH sef diwydiannau gwledig, gwasanaethau rheoli dŵr a gwasanaethau cyhoeddus, ble mae partneriaid yn arweinwyr rhanbarthol a chenedlaethol. 

Mae'r dyfarniad oddi wrth Adran Arloesi Gwyddoniaeth a Thechnoleg (yr Adran) yn canolbwyntio ar ddarparu Strategaeth Seilwaith Di-wifr y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023. Bydd PAH yn edrych ar ei sectorau a chymunedau allweddol i fanteisio'n llwyr ar effaith drawsffurfiol rhwydweithiau di-wifr i gynhyrchu gwerth a thwf ar lefel leol.

Bydd Rhanbarthau Arloesi yn arddangos a mabwysiadu 5G ac 'achosion defnydd' di-wifr uwch eraill ar draws sectorau allweddol yr economi a'r buddion gall y 'dechnoleg glyfar' hon eu rhoi, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi, gwneud i ffermydd, ffactrïoedd a gweithleoedd fod yn fwy cynhyrchiol a chreu swyddi sy'n talu'n well. Nod y prosiect yw cynhyrchu buddsoddiad mewnol pellach mewn 'rhwydweithiau di-wifr' a thechnoleg glyfar yn y rhanbarth ac i'w sectorau allweddol fabwysiadu'r cyfleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Sy'n Cysylltu: "Mae hwn yn newyddion gwych ac yn hwb gwirioneddol i dechnoleg ledled dalgylch Afon Hafren.

"Bydd y nawdd hwn yn ein helpu ni fel Rhanbarth Arloesi i arddangos, profi a llywio wrth fabwysiadau nwyddau digidol newydd a gwasanaethau newydd sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan helpu mentrau allweddol o ran rheoli ddŵr a diwydiannau gwledig i archwilio ac ecsbloetio Arloesi digidol."

Dywedodd y Gweinidog Seilwaith Digidol a Data, Syr John Whittingdale:  "Rydym ni'n sianelu miliynau i'r ardaloedd lleol i ddatgloi potensial technolegau blaenllaw 5G di-wifr a digidol a fydd yn ail-siapio ein gwasanaethau cyhoeddus, llywio twf economaidd a hybu arloesi. Bydd y nawdd newydd hwn yn rhoi cyfle i ardaloedd lleol ledled y wlad i fod ar y blaen o ran chwildro 5G Prydain, sy'n arwain y byd yn hynny o beth.

"Er enghraifft, wrth ddefnyddio 5G i ffermio a chreu parciau gwyddoniaeth nid yn unig ydyn ni'n helpu cymunedau lleol, ond rydyn ni hefyd yn annog syniadau newydd ledled y DU. Mae hyn yn fwy na chysylltu ffonau clyfar yn unig. Mae'n ymwneud â defnyddio cysylltiadau digidol pwerus i drawsnewid amrywiol sectorau yn yr economi a'r sector cyhoeddus ledled y wlad i gyd."

Dywedodd Dr Umar Daraz, aelod arweiniol bwrdd Arloesi PAH: "Dyma newyddion ffantastig i Bartneriaeth Afon Hafren. Bydd hyn yn cyflymu buddsoddiad masnachol mewn 5G a thechnolegau di-wifr uwch eraill, drwy gydgrynhoi ac arddangos galw ledled dalgylch Afon Hafren. Bydd Partneriaid Prifysgol fel Prifysgol Dinas Birmingham yn gweithio i fewnbynnu arbenigedd technegol a chymhwysol i'r Rhanbarth Arloesi 5G."

Mae Partneriaeth Afon Hafren yn cynnwys cynghorau sir ac unedol Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd, Sir Fynwy, Powys, Swydd Amwythig, Telford a Wrekin, Swydd Warwick a Swydd Gaerwrangon.

Mae ardal y PAH yn cynnwys 6,000 o filltiroedd sgwâr yng Nghymru a Lloegr a 2.6 miliwn o bobl.

Afon Hafren sydd wrth galon yr ardal, ac mae gan y Bartneriaeth gynllun a rennir sy'n cefnogi pobl, busnesau a'r amgylchedd i fod yn gydnerth yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac wrth wneud hynny ysgogi twf economaidd cynaliadwy.