Enillydd: Mae'r tîm caffael yn GO-falu am yr amgylchedd
17 Tachwedd 2023
Roedd cystadleuaeth galed rhwng Tîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol y cyngor a sefydliadau eraill ar y rhestr fer sef llywodraeth ganolog, GIG a'r sector cyhoeddus, ond cyhoeddwyd y tîm yn fuddugol yng nghategori Caffael Cynaliadwy yng Ngwobrwyon GO Cymru 2023/24.
Mae'r tîm wedi adnabod y cyflenwyr sy'n gyfrifol am yr allyriadau carbon uchaf, a'r meysydd risg uchaf er mwyn gallu targedu'r rhain i arwain at y gwelliannau mwyaf. Hefyd mae'n sicrhau y caiff cynaliadwyedd ei ystyried o gychwyn cyntaf pob prosiect, ac mae wedi llunio pecyn cymorth i ategu hyn ac i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o fewn y cyngor am gaffael cynaliadwy, crëwyd Rhwydwaith Gwyrdd o swyddogion, a'r gobaith yw y byddan nhw'n mynd ati i hyrwyddo gwelliannau pellach o fewn eu meysydd gwasanaeth unigol.
O safbwynt allanol, gofynnwyd i gyflenwyr sy'n derbyn dros £200,000 y flwyddyn am gyflenwi gwasanaethau i'r cyngor rannu eu cynlluniau lleihau carbon gyda'r tîm, gyda'r nod o hysbysu'r strategaeth prynu yn y dyfodol a'r ffyrdd gorau o gefnogi cyflenwyr i wireddu newid.
"Mae'r gwaith a wnaethpwyd i sicrhau fod ein hymarferion caffael mor gynaliadwy â phosibl yn hollbwysig os byddwn yn gwireddu ein nod o greu Powys gryfach, decach a gwyrddach," meddai'r Cyng David Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, "oherwydd, dengys ein hymchwil ni fod ein cadwyn cyflenwi'n gyfrifol am 70% o'n hallyriadau carbon.
"Hoffwn longyfarch y Tîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol ar eu llwyddiant yng Ngwobrwyon GO. Cafwyd ymdrech fawr gan bawb oedd yn gynwysedig ac maen dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wrth i ni hefyd ymgodymu â sefyllfa ariannol heriol iawn."
Cyflawnwyd y gwaith yma fel rhan o raglen trawsnewid Hinsawdd a Natur y cyngor; nod y rhaglen yw ei helpu i gyrraedd Sero Net o ran allyriadau carbon erbyn 2030 ac i ddiogelu a rheoli mewn ffordd gadarnhaol 30% o dir a dŵr y sir er budd natur erbyn yr un dyddiad.
Mae Gwobrwyon GO yn dathlu cyraeddiadau sefydliadau cyhoeddus, preifat a sector gwirfoddol Cymru o safbwynt caffael: https://wales.goawards.co.uk/
LLUN: Arweinydd Proffesiynol Gwasanaethau Caffael a Masnachol y cyngor, Wayne Welsby, yn casglu'r wobr am Gaffael Cynaliadwy.