Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith i ddechrau ar gynllun teithio llesol y Trallwng

Image of a cycle path sign

20 Tachwedd 2023

Image of a cycle path sign
Mae'r gwaith i wella'r ddarpariaeth teithio llesol ar hyd Ffordd Hafren, y Trallwng i ddechrau ar ddydd Llun 27 Tachwedd.

Cafodd ei ddynodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol gan y gymuned fel llwybr a fyddai'n ffurfio cam cyntaf prosiect ehangach i greu rhwydwaith teithio llesol lleol - gan alluogi rhagor o deithiau ar droed neu ar feic yn y dref.

Bydd y llwybr yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol Ffordd Hafren, o'r orsaf drenau i'r bont dros y gamlas. Fel rhan o'r prosiect caiff y llwybr presennol ei ledaenu i ddyfod yn llwybr sy'n cael ei rannu gan feicwyr a cherddwyr, a bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r arwyneb a'r draenio, gan wella diogelwch i'r holl ddefnyddwyr - ond yn enwedig i deuluoedd a disgyblion sy'n mynd yn ôl a blaen i Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymudwyr sy'n defnyddio'r orsaf drenau.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni gyda chyllid Llywodraeth Cymru a chymorth gan Drafnidigaeth Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir fod yn rhaid i deithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach gan gyfuno dulliau cynaliadwy eraill, a bydd y buddsoddiad parhaus i lwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, yn ein helpu ni i wireddu'r weledigaeth hon." Dywed y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Nid yn unig yw'r llwybrau hyn yn gwella diogelwch cerddwyr a beicwyr ar y ffordd, ond maen nhw hefyd yn darparu'r cyfle i ni gynyddu ein hiechyd a'n llesiant drwy fod yn fwy actif, yn ogystal â chyfrannu at leihau allyriadau ac at y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd cyfredol drwy ein galluogi ni i flaenoriaethu cerdded a seiclo yn hytrach na defnyddio'r car ar gyfer teithiau byr, lleol."

Yn ystod y cyfnod adeiladu bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw unrhyw amhariad i'r lefel lleiaf posibl a hoffwn ddiolch i bobl ymlaen llaw am eu hamynedd.