Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Powys i elwa o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth DU

Image of bank notes

21 Tachwedd 2023

Image of bank notes
Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau'n amodol dros £17.7 miliwn o bunnoedd o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth DU i hyrwyddo twristiaeth hamdden yn y sir drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth.

Nod yr arian yw mynd i'r afael â'r gwahaniaethau rhanbarthol ledled y Du drwy fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith lleol hanfodol i gynyddu balchder mewn lle a dod â phobl yn nes at gyfleoedd. Cafodd cyfanswm o 55 o brosiectau eu dethol ledled y DU i dderbyn arian yn Nhrydydd Rownd dyfarniadau Ffyniant Bro, ac mae'r prosiect o Bowys ymhlith saith cynnig llwyddiannus yng Nghymru.

Bydd yr arian, sef £17,714,498, yn cael ei wario i gyflenwi tri phrosiect cydlynol oddi fewn i'r sir, a fydd gyda'i gilydd yn hybu twristiaeth hamdden a chyfrannu at dwf economaidd lleol:  

  • Teithio llesol - bydd hwn yn darparu gwell mynediad rhwng trefi allweddol a'r cyrchfannau i dwristiaid sy'n eu hamgylchynu, gan ei wneud yn haws i ymwelwyr deithio o gwmpas Powys gan ddefnyddio dulliau llesol a gwella hygyrchedd i leoliadau allweddol i'r preswylwyr.
  • Ailwampio Hawliau Tramwy - bydd hyn yn galluogi a gwella hygyrchedd ymwelwyr â rhwydwaith Hawliau Tramwy amrywiol a gwerthfawr Powys.
  • Gosod Arwyneb Newydd - bydd hyn yn gwella mynediad i gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid a chefnogi'r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, gan hwyluso teithio o ansawdd gwell i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Rydym ni wrth ein boddau o dderbyn cadarnhad fod ein cais am Arian Ffyniant Bro wedi bod yn llwyddiannus." Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi ni i wneud y gwelliannau angenrheidiol i wella hygyrchedd cyfunol gwasanaethau allweddol, annog moddau teithio llesol i leihau tlodi trafnidiaeth, cefnogi gweithgareddau hamdden yn yr ardal, gwella ansawdd teithiau a gwella'r cysylltedd rhwng cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid."

Cafodd cryfder allweddol twristiaeth ei ddynodi ers tro o ran cefnogi twf a ffyniant economaidd Powys. Bydd cyfres o brosiectau lleol dan nawdd Ffyniant Bro yn gyfunol hybu twristiaeth hamdden a chyfrannu at dwf economaidd lleol drwy:

  • wella hygyrchedd ac ansawdd teithiau i wasanaethau allweddol a chyrchfannau allweddol i dwristiaid;
  • lledaenu'r pwll llafur drwy wella cysylltedd a darparu cyfleoedd i fusnesau a chyflogwyr lleol;
  • hyrwyddo teithio llesol i gyfrannu at dargedau Sero Net Powys o ran lleihau allyriadau carbon;
  • datblygu gwell synnwyr o le a gwneud y lle hwnnw'n fwy deniadol, fel bod pobl yn falch o fyw ym Mhowys ac o ymweld â'r lle.