Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dweud eich dweud am gynlluniau tai ar gyfer Y Trallwng

Image of an artist's impression of a new housing development in Welshpool

22 Tachwedd 2023

Image of an artist's impression of a new housing development in Welshpool
Mae gan breswylwyr sy'n byw yn Y Trallwng gyfle i ddweud eu dweud am gynlluniau ar gyfer datblygiad tai arfaethedig yn y dref, dywedodd Cyngor Sir Powys.

Mae'r cyngor yn ystyried adeiladu 16 byngalo eco-gyfeillgar wedi eu hinswleiddio'n drylwyr ar safle hen Ysgol Feithrin ac Iau yr Eglwys yng Nghymru Gungrog.

Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio wedi dechrau bellach ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a fydd yn rhedeg tan ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr, i alluogi partïon sy'n mynegi diddordeb i roi sylwadau ar y cynlluniau cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno.

Os ceir caniatâd cynllunio, bydd y cartrefi newydd dan berchnogaeth y cyngor ac yn cael eu rheoli gan y cyngor a'u dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - siop un stop ar gyfer tai cymdeithasol yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a gellir cyflawni hyn drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel.

"Mae ein datblygiad arfaethedig ar safle Hen Ysgol Feithrin ac Iau yr Eglwys yng Nghymru, Gungrog, yn mynd i fod yn bwysig wrth i ystyried bodloni'r flaenoriaeth hon ac adeiladu dyfodol i'r gymuned hon sy'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach.

"Mae'r ymgynghoriad cyn ymgeisio yn bwysig achos mae'n rhoi cyfle i'r gymuned leol ddweud ei dweud am y cynlluniau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio."

Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn digwydd ddydd Mawrth 19 Rhagfyr 2023.

I weld dogfennau'r ymgynghoriad cyn ymgeisio a chanfod sut i wneud sylwadau am y cynlluniau arfaethedig ewch i  https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/