Ailddechrau'r gwaith ar Hen Neuadd y Farchnad
24 Tachwedd 2023
Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn goruchwylio gwaith atgyweirio ar adeilad Hen Neuadd Farchnad restredig Gradd I yn Llanidloes. Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith yn gynharach eleni.
Bydd gwaith atgyweirio strwythurol pellach, a fydd yn cynnwys defnyddio technoleg newydd i gryfhau sefydlogrwydd yr adeilad, nawr yn cael ei wneud ar ôl i'r cyngor dderbyn caniatâd adeilad rhestredig.
Cyflwynwyd y cais am ganiatâd adeilad rhestredig gan Hughes Architects ar ran y cyngor.
Bydd y gwaith, a fydd yn cael ei rannu'n dri cham, yn dechrau ddydd Llun, 27 Tachwedd a'r bwriad yw ei gwblhau ddechrau mis Mai 2024.
Fodd bynnag, bydd y gwaith yn cynnwys codi sgaffaldiau, cau ffyrdd a goleuadau traffig wrth i'r gwaith fynd trwy'r gwahanol gamau.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Powys Gysylltiedig: "Mae'n bwysig bod y gwaith hwn yn cael ei wneud i sicrhau bod yr adeilad eiconig hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'r gwaith diweddaraf wedi bod yn anodd dod i ben ag ef gan fod angen y gwaith atgyweirio ac ailaddurno ar bob gweddlun o'r adeilad er mwyn cadw'r ffyrdd ar agor a chynnal llif traffig yn y dref.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud."