Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyflwyno gwobrau mawreddog i'r ysgol

Image of Cllr Pete Roberts, Cabinet Member for a Learning Powys, presents one of the trophies to a learner from Welshpool Church in Wales Primary School

24 Tachwedd 2023

Image of Cllr Pete Roberts, Cabinet Member for a Learning Powys, presents one of the trophies to a learner from Welshpool Church in Wales Primary School
Bydd dwy wobr fawreddog a enillwyd gan brosiect adeiladu arloesol yn gynharach eleni yn cael eu harddangos mewn ysgol yn y Trallwng ar ôl cael eu cyflwyno i ddysgwyr a staff.

Mae Cyngor Sir Powys wedi trosglwyddo'r tlysau i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng ar ôl i'w hadeilad ennill y Wobr Gwerth yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth yng Nghymru 2023 ynghyd â'r wobr Arloesi wrth Gyflenwi Cyfleuster Addysg Gynaliadwy yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2023 yn yr haf.

Cynlluniwyd adeilad yr ysgol, a agorodd ym mis Ionawr 2021, gan Architype (Penseiri) a WSP (Peirianneg pob Disgyblaeth) ac fe'i hadeiladwyd gan Pave Aways Ltd ar ran y cyngor.

Cafodd ei hadeiladu fel rhan o raglen Trawsnewid Addysg y cyngor, a hon yw'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf a adeiladwyd gan y cyngor. Mae'n bodloni'r safonau ynni effeithlon trylwyr sy'n ofynnol er mwyn ennill ardystiad Passivhaus.

Adeiladwyd yr ysgol o amgylch ffrâm bren o ffynonellau cynaliadwy yng Nghymru, mae ganddi lefel uwch o inswleiddio ac fe'i hadeiladwyd i fod yn aerglos. Mae ganddi hefyd systemau adfer gwres ac awyru a phaneli solar ar y to i leihau costau rhedeg.

Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt), a'r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Powys sy'n Dysgu: "Roedd hwn yn gyflawniad gwych ac rwy'n falch iawn bod y cyngor wedi trosglwyddo'r gwobrau mawreddog hyn i'r ysgol er mwyn iddynt eu harddangos gyda balchder yn eu hadeilad gwych.

"Ni fyddai'r prosiect arloesol hwn wedi bod yn bosibl oni bai am y bartneriaeth rhwng arweinwyr yr ysgolion a swyddogion ymroddedig y cyngor, Llywodraeth Cymru, Esgobaeth Llanelwy a'n partneriaid yn y diwydiant adeiladu.

"Mae'r cyfleuster arobryn hwn yn galluogi dysgwyr a staff addysgu i gyrraedd eu potensial ac mae wedi'i adeiladu i'r safonau ynni effeithlon uchaf sy'n helpu'r sir i leihau ei hôl troed carbon."