Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sesiynau cyngor i hybu twf economaidd

A woman giving business advice

24 Tachwedd 2023

A woman giving business advice
Bydd chwech o sesiynau cynghori yn cael eu cynnal yn nhrefi Powys dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i ddatrys problemau a allai fod yn eu dal yn ôl.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cynnal y digwyddiadau galw heibio, rhwng 9am a 3pm, yn Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng, Aberhonddu, Ystradgynlais a'r Gelli Gandryll.

  • Y Pafiliwn, Llandrindod, Dydd Mercher 29 Tachwedd
  • Hafan yr Afon, Y Drenewydd, Dydd Mercher 13 Rhagfyr
  • Gwesty'r Royal Oak, Y Trallwng, Dydd Mercher 24 Ionawr
  • Y Gaer, Aberhonddu, Dydd Iau 29 Chwefror
  • Llyfrgell Ystradgynlais, Dydd Iau 28 Mawrth
  • Castell y Gelli, Dydd Iau 25 Ebrill

Bydd arbenigwyr yn bresennol o Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Cwmpas Co-op, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Asiantaeth Ynni Hafren a Gwy ac o dimau adfywio, eiddo, cynllunio, safonau masnach ac iechyd amgylcheddol y cyngor ei hun.

Gall y rhain amrywio o leoliad i leoliad ond bydd Busnes Cymru a thîm adfywio'r cyngor yn bresennol ymhob un ohonynt ac, os hoffech wirio a fydd sefydliad penodol yn bresennol, gallwch gysylltu â'r tîm adfywio ar: regeneration@powys.gov.uk

"Rydym am helpu busnesau'r sir i ddatgloi eu potensial llawn fel rhan o'n cynlluniau i greu Powys gryfach, decach a gwyrddach," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Felly, byddwn yn apelio ar unrhyw un sy'n rhedeg busnes o unrhyw faint ym Mhowys, neu sy'n ystyried adleoli i'r ardal, i alw heibio a siarad â ni yn un o'r chwe digwyddiad hyn.

"Does dim angen trefnu apwyntiad."

Mae'r gwaith hwn bosibl diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n rhan o raglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.