Addasiadau i'r Anabl

Mae'r tîm addasu yn cynnig cymorth i breswylwyr Powys a allai ei chael hi'n anodd gwneud y tasgau arferol o ddydd i ddydd, neu unigolyn o bosibl sydd wedi dioddef anaf parhaol a allai fod angen addasiadau yn eu cartref.
Er enghraifft:
- Colli clyw
- Colli/ lleihad golwg
- Anawsterau symudedd
- Nodweddion diogelwch ar gyfer problemau iechyd meddwl neu unigolion Niwroamrywiol
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y 'grant cyfleusterau i'r anabl' i helpu i ariannu addasiadau i'ch eiddo cyn belled â'ch bod chi'n bodloni'r meini prawf;
- perchen ar, a byw yn gartref ei hun ym Mhowys.
- yn denant preifat.
- ag anabledd parhaol a sylweddol.
- yn cael trafferth gyda thasgau dyddiol.
Cyfarpar ac Addasiadau yn eich Cartref Cyfarpar ac Addasiadau yn eich Cartref