Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfle i ysgolion cynradd ennill talebau drwy ailgylchu batris

Image of batteries

27 Tachwedd 2023

Image of batteries
Gallai disgyblion ysgolion cynradd Powys ennill siâr o'r £500 o dalebau i'w hysgol wrth ailgylchu cynifer o fatris ag y gallant.

Mae Cyngor Sir Powys yn rhedeg cystadleuaeth ailgylchu batris am ddim ac yn annog ysgolion cynradd i gofrestru er mwyn cael cyfle i ennill cyfran o £500 o dalebau Amazon. Bydd yr ysgol sydd ar y brig o ran casglu'r mwyaf o fatris yn ennill taleb o £300, gyda'r ysgolion sy'n ail a thrydydd yn hawlio talebau £150 a £50 yr un.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Lwyfan Ailgylchu Ewrop, sef cynllun cydymffurfio'r cyngor ar gyfer offer trydanol ac electronig a batris.

Bydd yr ysgolion cynradd sy'n cofrestru yn derbyn blwch batris am ddim ac yn cystadlu o ddechrau Rhagfyr tan ddiwedd y flwyddyn ysgol (19 Gorffennaf 2024) i gasglu cynifer o fatris domestig ag sy'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys batris safonol AA ac AAA a batris nicel cadmiwm, batris cell botwm, pecynnau pŵer, a batris gliniaduron.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Nid yn unig yw'r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i ysgolion ennill ychydig o dalebau ond mae hefyd yn annog eu disgyblion a'u teuluoedd i ailgylchu eu batris. Byddwn i'n annog pob ysgol yn y sir i gofrestru a chymryd rhan.

"Caiff batris eu creu o ddeunydd ailgylchadwy gan gynnwys plwm, cadmiwm, sinc, lithiwm a mercwri. Caiff pob batri sy'n cael ei gasglu gan ysgol ei dorri'n ddarnau a chaiff y deunydd sy'n cael ei adfer ei ddefnyddio i wneud batris newydd ac eitemau eraill, yn hytrach na mynd ar goll am byth.

"Mae'n bwysig iawn addysgu cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd ailgylchu. Bydd ysgolion sy'n cyfranogi yn sefydlu ymddygiad ailgylchu da yn y disgyblion a helpu eu cymunedau i dorri lawr ar allyriadau carbon, hybu cyfraddau ailgylchu, ac ysbrydoli pawb i ailgylchu fwy."

Mae athrawon, llywodraethwyr a rhieni yn cael eu hannog i gofrestru eu hysgol gynradd leol a dechrau casglu'r batris yna. Er mwyn cymryd rhan, cysylltwch â'r cyngor drwy e-bost schoolsbatteries@powys.gov.uk