Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sefydlu mynwent newydd y cyngor sir ym Machynlleth

Image of three people at the Y Plas Cemetery in Machynlleth

27 Tachwedd 2023

Image of three people at the Y Plas Cemetery in Machynlleth
Sefydlwyd mynwent newydd yng ngogledd Powys trwy gydweithio rhwng y cyngor sir a chyngor tref.

Datblygwyd Mynwent Y Plas ar dir gerllaw adeilad Y Plas ym Machynlleth, ar ôl i fynwent wreiddiol y dref ar Dregarth gyrraedd capasiti ar ôl 120 mlynedd.

Oherwydd nid oedd unrhyw dir ychwanegol ar gael i ymestyn y fynwent wreiddiol cynhaliodd Cyngor Sir Powys astudiaeth ar ddichonoldeb datblygu safle potensial ar gyfer mynwent newydd ar dir yng nghefn Y Plas.

Trwy gydweithio gyda Chyngor Tref Machynlleth, mae'r cyngor sir wedi datblygu hanner erw o dir ar gyfer mynwent newydd y dref.

Dywed y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Pleser o'r mwyaf yw gallu datblygu mynwent newydd, fydd yn lleoliad claddu ar gyfer trigolion Machynlleth am y 150 mlynedd nesaf.

"Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi bod yn bosibl heb gydweithio gyda Chyngor Tref Machynlleth a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cymorth i'n helpu cadw'r gwasanaeth pwysig yma ar gyfer y dref."

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gadw llain, gallwch gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd drwy ebostio public.protection@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01597 827467.