Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Hinsawdd Cymru: Dyfarnu bron i £2m i 10 prosiect 'gwyrdd'

People working on green projects

4 Rhagfyr 2023

People working on green projects
Mae deg prosiect fydd yn helpu Powys i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi derbyn bron i £2 filiwn o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Mae'r grantiau - sy'n rhan allweddol o raglen Ffynian Bro Llywodraeth y DU - wedi'u dyfarnu gan Bartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Powys, a gefnogir gan Dîm Adfywio Cyngor Sir Powys.

Mae'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn cynnwys un fydd yn helpu diogelu cartrefi a busnesau rhag difrod llifogydd (£825,000), un arall fydd yn helpu cwmnïau i dorri eu biliau tanwydd ac allyriadau CO2 (£403,392), yn ogystal â phrosiect fydd yn cefnogi tyfu llysiau a ffrwythau trwy safleoedd cymunedol a mentrau cymdeithasol (£204,910).

"Mae cyfanswm o £42.2 miliwn o arian UKSPF wedi'i ddyrannu i Ganolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) i'w wario dros dair blynedd, hyd at fis Mawrth 2025, ac mae'n wych gweld bod cyfran dda o hwn (£1.93 miliwn) eisoes wedi'i ddyrannu i brosiectau fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, meddai'r Cyng. David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Ffyniannus a chadeirydd Partneriaeth Leol SPF Powys, "ac mae mwy o brosiectau tebyg eu natur yn dal i gael eu hasesu neu eu cymeradwyo."

Ychwanegodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach: "Bydd y prosiectau sydd wedi'u cymeradwyo yn ein helpu i wireddu ein hymrwymiad i fod yn net sero ar gyfer allyriadau carbon fel cyngor erbyn 2030 ac fel sir erbyn 2050, ac i 30% o'n tir a'n dŵr gael eu rheoli'n gadarnhaol ar gyfer byd natur erbyn 2030 (Cymru 30x30).

"Rwyf hefyd wrth fy modd ein bod wedi gallu gwneud y cyhoeddiad hwn yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (4-8 Rhagfyr)."

Y prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yw:

  • Eiddo i Wrthsefyll Llifogydd, £825,000, i Wasanaethau Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys, i helpu perchnogion eiddo i ddiogelu eu cartrefi a'u busnesau rhag difrod llifogydd.
  • Hwb Effeithlonrwydd Ynni Busnes Canolbarth Cymru, £403,392, i Asiantaeth Ynni Severn Wye, i helpu busnesau bach a chanolig eu maint i leihau eu biliau ynni ac allyriadau CO2.
  • Cymorth Tyfu Cymunedol Powys, £204,910, i Dîm Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru, i helpu datblygu safleoedd tyfu llysiau a ffrwythau cymunedol a mentrau cymdeithasol ledled Powys.
  • Llwybrau at Ffyniant, £131,187, i Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Cherddwyr Cymru, i ddatblygu a hyrwyddo llwybrau cerdded o safon drwy gydol y flwyddyn a fydd yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy.
  • Datgarboneiddio Contractau a Chyflenwyr, £125,000, i Dîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol Cyngor Sir Powys, i helpu torri allyriadau carbon cadwyn gyflenwi'r cyngor.
  • Insiwleiddio Powys, £112,846 i Grŵp Colegau NPTC, i hyfforddi mwy o osodwyr inswleiddio a hyrwyddo manteision eu gwaith i berchnogion tai.
  • Effeithlonrwydd Ynni Adeiladau Cymunedol, £83,000, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar gyfer ail gam prosiect sy'n lleihau biliau ynni ac allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau cymunedol.
  • Ymgysylltu Bioamrywiaeth, £61,500 i Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys, i ariannu swyddog adfer natur am ddwy flynedd, i helpu cyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur y sir.
  • Mannau Gwyrdd Ystâd Tremont, £60,000, i Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys, ar gyfer gwella ardaloedd chwarae a bioamrywiaeth i'r mannau gwyrdd ar ystâd dai Tremont yn Llandrindod.
  • Prosiect Ynni Carbon Isel Talgarth, £50,000, i Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â GP Biotec, ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i weld a ellir defnyddio ynni dros ben o waith treulio anaerobig GP Biotec yn Nhalgarth i bweru cerbydau'r cyngor ac adeiladau cyhoeddus.

Mae Partneriaeth Leol SPF Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Busnes Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.