Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynlluniau Ysgol Bro Hyddgen i'w dangos mewn digwyddiad galw heibio

Image of proposed new building for Ysgol Bro Hyddgen

6 Rhagfyr 2023

Image of proposed new building for Ysgol Bro Hyddgen
Gellir gweld cynlluniau cyffrous i adeiladu adeilad newydd i ysgol bob oed mewn digwyddiad galw heibio ym Machynlleth yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys am adeiladu ysgol newydd i Ysgol Bro Hyddgen fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg. Caiff yr ysgol newydd, â lle i 540, ei adeiladu ar safle ysgol uwchradd Bro Hyddgen i gymryd lle 'r adeiladau cynradd ac uwchradd presennol.

Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio am y datblygiad arfaethedig, yn mynd rhagddo, sy'n galluogi partïon sy'n mynegi diddordeb i gynnig sylwadau am y cynlluniau cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno.

Fel rhan o'r broses hon, caiff sesiwn galw heibio ei chynnal ar gampws uwchradd yr ysgol ddydd Mawrth 12 Rhagfyr rhwng 3.30pm a 7pm.

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i adolygu a thrafod y cynlluniau ar gyfer adeilad newydd yr ysgol, bydd y digwyddiad ar agor i gymuned yr ysgol gyfan, yn ogystal â'r cyhoedd.

Ar ôl iddo gael ei adeiladu bydd yr adeilad newydd yn cynnwys cyfleusterau'r blynyddoedd cynnar, ardaloedd ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16, ystafell gymunedol, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd llesiant yn ogystal ag ardaloedd awyr agored a maes chwarae 3G.

Bydd gan yr adeilad nodweddion amgylcheddol ardderchog a hon fydd adeilad ysgol Passivhaus gyntaf y cyngor, â'r nod o gyflawni Sero Net ar waith â tharged o <600kg/CO2m2 o garbon ymgorfforedig, a disgwylir y bydd yr ysgol newydd ar agor i ddisgyblion yn 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Bydd adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen yn darparu cyfleusterau modern i'n disgyblion a'n staff addysgu a'u helpu i ddarparu mwynhad a bodlondeb ym mhrofiad addysg pawb.

"Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn darparu cyfle grêt i bawb yng nghymuned yr ysgol ac aelodau o'r cyhoedd i weld y cynlluniau cyffrous hyn, a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr ym Mhowys."

I weld dogfennau'r ymgynghoriad cyn-ymgeisio ewch i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/ sydd hefyd yn rhoi manylion am sut y gallwch wneud sylwadau am y cynlluniau arfaethedig.