Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweinidog yn ymweld â phrosiect ym Mhowys sy'n cefnogi iechyd meddwl plant

Image of Minister with a mum and baby

6 Rhagfyr 2023

Image of Minister with a mum and baby
  Bu'r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle yn siarad gyda theuluoedd a phobl ifanc yn Y Drenewydd ynghylch cymorth cynnar a chefnogaeth estynedig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Daeth y Dirprwy Weinidog i ymweld â'r Drenewydd ddydd Iau diwethaf (30 Tachwedd) er mwyn hyrwyddo enghreifftiau cadarnhaol mewn perthynas â rhoi fframwaith NYTH ar waith ledled y sir. Arf cynllunio cenedlaethol newydd yw NYTH  sy'n cael ei gyflwyno ar draws Powys er mwyn i wasanaethau sicrhau fod iechyd meddwl a llesiant wrth galon eu holl waith. 

Partneriaeth Dechrau'n Dda'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol sy'n arwain y dull hwn o weithio ym Mhowys, er mwyn gwella'r ffordd y mae pawb yn cynllunio ac yn cyflenwi gwasanaethau ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a' teuluoedd, er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth a'r cymorth cywir pan fo'i angen.

Bu'r Gweinidog yn siarad gyda theuluoedd ac ymarferwyr yng Nghanolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd, er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael, a sut maent yn cydweithio. "Siop un stop" yw'r ganolfan sy'n darparu gwasanaethau a chymorth i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn yr ardal leol.

Mae'r ganolfan yn darparu gweithgareddau megis grwpiau rhiant a phlentyn, sesiynau tylino babanod, gwasanaeth gwybodaeth a chyngor, rhaglenni Hyfforddi Rhieni - y Blynyddoedd Rhyfeddol, cyngor iechyd, cymorth i'r teulu a gwasanaethau cwnsela. 

Aeth y Gweinidog ymlaen i gwrdd ag aelodau Bwrdd Iau Dechrau'n Dda i drafod eu gwaith, a sut maen nhw wedi helpu sefydlu'r Caffi Ieuenctid yn Y Drenewydd. Cynhelir y caffi ar ddydd Iau olaf bob mis yn Hafan yr Afon. Datblygodd y caffi yn sgil ymgynghoriad  Bwrdd Iau Dechrau'n Dda gyda phobl ifanc ledled y sir. 

Dywed y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: "Roedd yn hyfryd cael cwrdd â phobl ifanc a'u teuluoedd i glywed sut maen nhw'n elwa o Ganolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd a'r Caffi Ieuenctid. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhagorol, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ym Mhowys, trwy flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant, a thrwy helpu pobl i gael hyd i'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. 

"Mae'r ymweliad hwn, ac yn enwedig gwaith gwych y Bwrdd Iau Dechrau'n Dda, wedi tynnu sylw at sut mae Fframwaith NYTH yn gweithio ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau taw llais defnyddwyr sydd yn flaenllaw o ran gwasanaethau i sicrhau eu bod yn darparu'r cymorth iawn, ar yr amser iawn, ac mewn ffordd sy'n iawn ar gyfer yr unigolyn dan sylw."

Dywed Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, Kirsty Williams: "Rwyf mor falch fod y Dirprwy Weinidog wedi gallu cael sgwrs gyda theuluoedd a phobl ifanc am eu cyfraniad i'n helpu gwella ein ffordd o gydweithio ar iechyd, gofal a llesiant. 

"Roedd yn gyfle inni ddangos y gwaith cymorth rhagorol sy'n digwydd eisoes ar draws y rhanbarth, ac i siarad am ein cynlluniau o ran NYTH yn y dyfodol." 

Yn ôl Ffion, un o Aelodau Bwrdd Iau Dechrau'n Dda: "Mae pob un ohonom yn angerddol am brosiect y Caffi Ieuenctid. Cafodd ei greu fel man diogel lle gall pobl ifanc fynd i gael diod am ddim, a bwyd rhad er mwyn cael eistedd a siarad gyda ffrindiau, neu i'w ddefnyddio fel man tawel i wneud gwaith cartref neu adolygu, os nad oes lle addas ar gael gartref. 

"Rydym yn ceisio creu cysylltiadau gyda gwasanaethau lleol er mwyn cynnig awyrgylch hamddenol i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau cymorth o safbwynt llesiant emosiynol, os oes ei angen."

Dywed y Cyng. Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Pleser o'r mwyaf oedd cael croesawu'r Dirprwy Weinidog i'r Ganolfan Deuluol a'r Caffi Ieuenctid. Mae'r ganolfan deuluol, sydd yng nghalon y gymuned, yn galluogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau mewn un man.  Peth braf yw gweld y gwasanaethau cymorth cynnar hyn yn cydweithio i ddiwallu anghenion teuluoedd."