Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Hinsawdd Cymru: Cadarnhau ffigurau ailgylchu Powys

Image showing a recycling icon

7 Rhagfyr 2023

Image showing a recycling icon
Mae data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Ystadegau Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cadarnhau fod Powys unwaith yn rhagor wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru sef 64%, gyda chyfradd ailgylchu ledled y sir o 68.1% ar gyfer 2022/23.

Mae Cymru'n perfformio'n well na gwledydd eraill y DU o ran ailgylchu ac ar hyn o bryd Cymru yw un o'r gweledydd ailgylchu gorau yn y byd gyda chyfradd ailgylchu o 65.7% ar gyfartaledd.

"Â hwythau eisoes uwch ben y cyfartaledd cenedlaethol o ailgylchu, mae pobl Powys ymhlith y goreuon o ran ailgylchu ac mae cyfraddau ledled y sir yn parhau i godi bob blwyddyn." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae'r ffigurau swyddogol hyn a gyhoeddwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 wedi cadarnhau fod gwaith caled ac ymrwymiad ein preswylwyr a'n criwiau yn talu ffordd. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o hyd wrth ymdrechu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chyrraedd targed nesaf Llywodraeth Cymru o ailgylchu, neu gompostio 70% o'n gwastraff erbyn 2025.

"Wrth symud ymlaen, hoffem annog ein preswylwyr i fod yn fwy ymwybodol o'u harferion fel defnyddwyr i helpu i gyflawni'r dyfodol cynaliadwy yr ydym ni oll am ei gael gan beidio â chreu gymaint o wastraff yn y dyfodol.

"Mae angen i ni ganolbwyntio hefyd ar wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn ailgylchu gymaint o'n gwastraff ag sy'n bosibl. Ar hyn o bryd mae dros 30% o gynnwys ein biniau olwynion a sachau porffor yn cynnwys deunydd y byddai'n hawdd eu hailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos, gan gynnwys gwydr, caniau, tybiau plastig, cerdyn, papur a pheth wmbredd o fwyd. Pe byddem ni i gyd yn ailgylchu popeth yn gywir bob wythnos yna byddem ni ar unwaith yn cynyddu ein cyfradd ailgylchu gan dros 8%!"

"Fe wyddom ni eisoes ein bod ni'n sir o ailgylchwyr cydwybodol sy'n ymfalchïo'n fawr wrth wneud ein rhan dros yr amgylchedd, a does dim amheuaeth gennym y byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu ein hailgylchu ymhellach ac adeiladu dyfodol sy'n fwy cynaliadwy i'r cenedlaethau a ddaw."

Am ragor o fanylion am beth allwch ac na allwch ei ailgylchu drwy gasgliadau ailgylchu wythnosol a'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ewch i Biniau, sbwriel ac ailgylchu