Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Hinsawdd Cymru: Mae adnewyddu goleuadau stryd yn lleihau'r defnydd o ynni

Streetlights

7 Rhagfyr 2023

Streetlights
Mae prosiect sy'n ceisio lleihau faint o ynni sydd angen I bweru goleuadai stryd Powys ar y trywydd iawn gyda mwy na chwarter yr arbedion arfaethedig eisoes wedi'u gwned.

Dechreuodd Cyngor Sir Powys brosiect 10 mlynedd yn 2020 I fwy na haneru ei ddefnydd trydan blynyddol ar gyfer goleuadau stryd erbyn 2030, gyda mwy na chwarter yr arbediad arfaethedig o 872,642 KWh y flwyddyn eisoes wedi'i wneud.

Mae hyn yn cyfateb i'r swm a ddefnyddir gan 116 o gartrefi ym Mhrydain mewn blwyddyn, gyda'r nod o'i leihau yn y pen draw gan y swm a ddefnyddir yn flynyddol gan 323 o gartrefi ym Mhrydain.

Roedd y cyngor yn defnyddio 1,672,642 kWh o drydan I bweru ei oleuadau stryd ar ddechrau'r prosiect yn 2020. Mae hyn bellach I lawr I 1,360,572 Kwh y flwyddyn ac yn y pen draw bydd yn is na 800,000 kWh y flwyddyn erbyn 2030.

Mae'r gwaith yn cynnwys adolydu lle mae'r angen mwyaf am oleuadau - yn seiliedig ar ffactorau diogelwch, cymdeithasol ac amgylcheddol - ac a ellir diffodd neu bylu gleuadau am ran o'r nos neu mewn achosion prin eu tynnu. Ar yr un pryd , mae colofanau, arwyddion, llusernau LED a chebau Newydd yn y cael eu gosod, lle bo angen, i wneud y goleuadau stryd yn fwy fforddiadwy i'w rhedeg a'u cynnal ac i helpu i leihau allyriadau carbon.

Mae'r gwelliannau hefyd yn helpu'r cyngor i gydymffufio â mesurau awyr dywyll a bioamrywiaeth a gwella diogelwch ei seilwaith goleudau stryd sydd mewn rhai mannau yn fwy na 50-mlwydd-oed.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn or bryd i uwchraddio goleudau yn y trefi a'r pentrefi o amgylch Parc cenedlaethol Bannau Brycheniog yn y de ac o amgylch y Drenewydd yn y gogledd, yn ystod pedwaredd flwyddyn y rosiect.

"Mae'r tîm Priffyrdd sy'n gwthio ar y prosiect hwn yn gwneud cynnydd gwych'" meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach. "ac rwy'n filch iawn ein bod wedi gallu rhannu hyn gyda'r cyhoedd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag arbed carbon ac mae'n ffordd anhygoel o gyflawni hynny.

"Yn y degawd diwethaf rydym hefyd wedi helpu Parc Cenedleaethol Bannau Brycheiniog a Chwm Elan I ennill statws awyr dywyll ac rydym nawr yn y broses o helpu Llanandras a Norton i ennill statws cymuned awyr dywyll: y cyntaf yng Nghymru a Lloegr.

"Rydym hefyd yn cysylltu â  gwrpiau  bywyd gwyllt i sicrhau and ye ein and ye ein goleuadau'n effeithio'n andwyol ar lwybrau ystlumod nac ardaloedd bwydo dyfrgwn ac yn benodol yn defnyddio tymheredd lliw o 2200K ar gyfer ein llusrenau, felly maent yn gyfeillgar I natur ac yn cydymffurfio â'r awyr dywyll.

Dechreuodd y cyngor waith i leihau ei ddefnydd o ynnu golau stryd am y tro cyntaf yn 2008, pan oedd yn defnyddio 6,600,000 kWh o drydan bob blwyddyn - sy'n cyfateb ar hyn o bryd i 2,444 o gartrefi ym Mhrydain. Mae bellach yn defnyddio llai na chwarter y swm hwnnw ar 1,360,572 kWh y flwyddyn.