Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Hinsawdd Cymru: Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn dod i bedwar maes parcio arall ym Mhowys

Charging an electric vehicle

8 Rhagfyr 2023

Charging an electric vehicle
Bydd pwyntiau gwefru cyflym i wefru cerbydau trydan yn cael eu gosod mewn pedair cymuned arall ym Mhowys, wedi i'r cyngor sir sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd gwaith i uwchraddio cyflenwadau pŵer a gosod y pwyntiau gwefru yn Llanfair Caereinion, Llanwrtyd, Carno a Llanfyllin yn cael ei wneud yn ystod tri mis cyntaf 2024.

Bydd hyn yn golygu y bydd 17 o fannau ar gael ar safleoedd Cyngor Sir Powys, lle gall trigolion ac ymwelwyr gwefru eu cerbydau.

Bydd y pwyntiau gwefru newydd yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio Stryd y Dŵr, Llanfair Caereinion
  • Maes Parcio Stryd Zion, Llanwrtyd
  • Maes Parcio Carno (drws nesaf i'r Spar), cyn safle'r neuadd bentref
  • Maes Parcio Llanfyllin

Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o feysydd parcio sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys ddau bwynt gwefru, ac mae gan bob un o'r rhain ddau soced gwefru, fel y gall pedwar cerbyd gwefru ar yr un pryd.

"Mae'n wych ein bod yn mynd i fod yn gwneud ychwanegiadau pellach at ein rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yn y Flwyddyn Newydd, a fydd yn gwneud y dull hwn o drafnidiaeth hyd yn oed yn fwy ymarferol i'n trigolion a'n hymwelwyr," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Rwyf hefyd yn falch o allu cadarnhau'r ehangiad hwn yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.

"Gyda mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan bydd yn helpu i leihau llygredd aer, gan nad oes unrhyw allyriadau o'r beipen fwg, a bydd yn helpu i leihau ein hôl troed carbon yn y tymor hir gan y bydd llai o CO2 yn cael ei gynhyrchu."

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus a ddarperir gan Gyngor Sir Powys: Gwefru Cerbydau Trydan