Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Lansio arolwg cyllideb

Money

11 Rhagfyr 2023

Money
Gofynnir i bobl Powys, busnesau a defnyddwyr gwasanaethau rannu eu safbwyntiau gyda'r Cyngor fel rhan o'r broses gosod cyllideb.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: Mae'r Cyngor yn wynebu pwysau ariannol difrifol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 ac i'r dyfodol rhagweladwy, mae'n wynebu pwysau a fydd yn tra-arglwyddiaethu dros y ffordd yr ydym ni'n cyflenwi gwasanaethau am flynyddoedd maith i ddod.

"Mae'n anochel y bydd y pwysau hyn yn newid y ffordd yr rydym ni'n gweithredu, ni fydd y cyngor sydd gennym ni heddiw yn fforddiadwy yn y dyfodol. Rhaid i ni addasu os ydym am oroesi ac mae gwrando ar bobl Powys yn rhan o gynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Nid yw Powys ar ei phen ei hun wrth wynebu dyfodol ariannol llwm, mae llywodraethau lleol ledled Cymru'n wynebu'r un pwysau difrifol. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth ymateb i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor fod awdurdodau yng Nghymru'n wynebu twll du gwerth £411 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

"Cafodd y neges blaen ei chefnogi gan ragolwg ariannol annibynnol oddi wrth Ddadansoddi Ariannol Cymru, sy'n rhagweld rhagolwg tywyll i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

"Rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ac ymgysylltiad y gyllideb yw'r cam cyntaf yn unig yn y broses honno. Rydym yn ymroddedig i gael trafodaeth lawn ac agored â phobl Powys a defnyddwyr gwasanaethau drwy gydol y cyfnod heriol hwn," dywedodd.

Gellir dod o hyd i'r arolwg gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cyllideb-2023 ac mae ar gael mewn llyfrgelloedd. Y dyddiad cau yw Ionawr 7.