Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Paneli solar a goleuadau LED yn helpu ysgolion a chanolfannau cymunedol i dorri biliau

Solar panels on Arddleen Primary School

11 Rhagfyr 2023

Solar panels on Arddleen Primary School
Gosodwyd paneli solar a goleuadau LED mewn dwy ysgol ym Mhowys gyda chanolfannau cymunedol ynghlwm iddynt, a byddant yn cael eu gosod mewn pedair ysgol arall yn y Flwyddyn Newydd.

Ysgol Gynradd Sirol Ardd-lin, Ysgol Rhiw-Bechan a Chanolfan Gymunedol Tregynon yw'r safleoedd sydd wedi elwa o'r cynlluniau a ddatblygwyd gan Wasanaethau Dylunio Eiddo Cyngor Sir Powys hyd yn hyn, gyda gwelliannau tebyg ar y ffordd i Ysgol Gynradd Aberriw, Ysgol Dolafon, Ysgol Glantwymyn, Ysgol Cwm Banwy a'u canolfannau cymunedol sydd ynghlwm iddynt cyn diwedd Mawrth 2024.

Cefnogwyd y gwaith gan gyllid grant Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau Llywodraeth Cymru (Ystadau Cymru), ac roedd yn cynnwys:

  • Gosod rhesi ffotofoltäig (PV) 8 kWp ar y tô gyda storfa batri 11 kWh yn Ysgol Gynradd Sirol Ardd-lin.
  • Newid yr holl oleuadau yn Ysgol Gynradd Sirol Ardd-lin a Chanolfan Gymunedol Ardd-lin a gosod goleuadau ynni isel LED
  • Gosod rhesi ffotofoltäig (PV) 11 kWp ar y tô gyda storfa batri 11 kWh yn Ysgol Rhiw-Bechan.
  • Gosod rhesi ffotofoltäig (PV) 4 kWp ar y tô gyda storfa batri 5.5 kWh yng Nghanolfan Gymunedol Tregynon.
  • Newid yr holl oleuadau yn Ysgol Rhiw Bechan a gosod goleuadau LED ynni-isel.

Disgwylir y bydd y gwelliannau goleuadau yn Ardd-lin yn arbed dros £2,000 y flwyddyn ar filiau trydan yn unig a thua 1.3 tunnell gyfatebol o C02.

Disgwylir y bydd y gwelliannau goleuadau yn Nhregynon yn arbed dros £4,500 y flwyddyn ar filiau trydan yn unig a thua 2.9 tunnell gyfatebol o CO2.

"Penderfynon ni wario'r arian a gawsom ar brosiectau y gellid eu cyflawni'n gyflym i helpu torri biliau ynni a lleihau ôl troed carbon rhai o ysgolion a chanolfannau cymmunedol y sir," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae'r ffocws i ddechrau, ar dechnolegau profedig sy'n gymharol rad ac yn hawdd i'w gosod ac y bydd yn sicrhau buddion ar unwaith.

"Rwy'n falch o glywed bod y ddwy ysgol, lle mae systemau ynni adnewyddadwy wedi'u gosod, bellach yn eu defnyddio fel cymorth addysgu, gyda disgyblion yn monitro eu perfformiad.

"Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod mwy neu lai yn hunangynhaliol o ran cynhyrchu digon o ynni gwyrdd ar gyfer eu hanghenion eu hunain yn ystod  misoedd yr haf."

Cyflwynwyd y prosiect yn Ardd-lin gan Andrew Lister Electrical Contractors o Landinam a'r un yn Nhregynon gan Ian Jones Electrical Contractors o Gaersws.

Mae cyllid Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau hefyd wedi cael ei ddefnyddio i helpu i dalu costau arolygon ynni mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol.

LLUN: Y panelau solar ar dô Ysgol Gynradd Gymunedol Ardd-lin.