Cynnydd cadarnhaol i brentisiaethau
11 Rhagfyr 2023
Darparwyd cyfleoedd mewn amrywiaeth o rolau sector cyhoeddus gan gynnwys gofal cymdeithasol, tai, priffyrdd, TGCh ac addysg.
Mae'r nifer sydd wedi derbyn prentisiaeth eisoes yn fwy na'r targed a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a disgwylir rhagor cyn Ebrill. Cafodd y newyddion ei groesawu'n gynnes gan y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys â chyfrifoldeb dros AD a'r gweithlu.
Dywedodd: "Rydym wrth ein boddau o fod wedi gallu cynnig y cyfleoedd hyn mewn amrywiaeth o wasanaethau cymorth llinell flaen.
"Mae prentisiaethau'n gallu cynnig llwybr gyrfaol ffantastig i bobl, gan ddatblygu gweithlu talentog i'n sefydliad gyda sgiliau'n barod i'r dyfodol."
Yn gynharach eleni, gwnaeth Cabinet y Cyngor ymrwymo i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i brentisiaid - sef cyfradd fesul awr sy'n seiliedig ar gostau byw a sy'n cael ei gosod yn annibynnol. Caiff ei dalu'n wirfoddol i weithwyr gan dros 10,000 o gyflogwyr yn y DU.
Ychwanegodd y Cynghorydd Berriman: "Os oes diddordeb gennych gael cyfle newydd, buaswn yn eich annog i wneud cais am un o'n prentisiaethau yn y dyfodol sy'n cael eu hysbysebu ar ein gwefan: https://cy.powys.gov.uk/swyddi. Yn ychwanegol, gallwch gofrestru ar restr bostio ein Cronfa Dalent fel bod modd cysylltu â chi'n uniongyrchol os fydd swydd wag addas ar gael.