Dweud eich dweud ar gynlluniau tai ar gyfer Llanrhaeadr-ym-Mochnant
15 Rhagfyr 2023
Mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu 18 o gartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn eco-gyfeillgar ar dir i'r gorllewin o Faes yr Esgob.
Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys dau dŷ tair ystafell wely, chwe thŷ dwy ystafell wely, chwe thŷ un ystafell wely a phedwar byngaol un ystafell wely.
Mae ymgynghoriad cyn-ymgeisio bellach ar waith ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a bydd hwn yn rhedeg tan ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024, er mwyn caniatáu i bartïon â diddordeb wneud sylwadau ar y cynlluniau cyn cyflwyno cais cynllunio.
Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd y tai newydd yn eiddo i'r cyngor ac yn cael eu rheoli a'u dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - y siop-un-stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Powys Decach: "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a gallwn gyflawni hyn drwy godi tai cyngor o ansawdd uchel.
"Bydd ein datblygiad arfaethedig yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn bwysig wrth i ni geisio cyflawni'r flaenoriaeth hon ac adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'r gymuned yma.
"Mae'r ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn bwysig gan ei fod yn rhoi cyfle i'r gymuned leol ddweud eu dweud ar y cynlluniau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio."
Bydd yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn cau ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.
I weld y dogfennau ymgynghori cyn-ymgeisio ar-lein a darganfod sut y gallwch gyflwyno sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig, ewch i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/land-west-of-maes-yr-esgob-llanrhaeadr-ym-mochnant-tir-ir-gorllewin-o-maes-yr-esgob-llanrhaeadr-ym-mochnant/