Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ailwampio maes chwaraeon

Image of refurbished Red Gra pitch at Caereinion Leisure Centre

18 Rhagfyr 2023

Image of refurbished Red Gra pitch at Caereinion Leisure Centre
Cafwyd cyhoeddiad fod maes chwaraeon yng ngogledd Powys wedi cael ei ailwampio diolch i grant o £150,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae archebion yn cael eu derbyn bellach oddi wrth grwpiau chwaraeon i ddefnyddio'r maes Red Gra yng Nghanolfan Hamdden Llanfair Caereinion, sy'n cael ei gweithredu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys gan Freedom Leisure, yr ymddiriedolaeth hamdden nid-er-elw.

Cwblhawyd gwaith ailwampio'r maes, gan gynnwys gwella'r llifoleuadau, gwaith draenio a'r perimedr ffensio, ym mis Hydref. Cafodd y prif waith ei gyflawni gan Tarmac ac fe gafodd PJ Martin o Llandrindod is-gontract i gyflawni'r gwaith sylfaen.

Cwblhawyd y gwaith ar ôl i Gyngor Sir Powys lwyddo i dderbyn £150,000 o Grant Cyfalaf Ysgolion Bro oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd y maes yn addas i'w ddefnyddio ar gyfer pêl-droed, hoci ac amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored a hynny gan yr ysgol, grwpiau chwaraeon a chymunedau yn Llanfair Caereinion a'r cylch.

Mae'r cyfleuster gwell yn darparu arwyneb delfrydol yn ystod misoedd y gaeaf pan fo caeau a meysydd glaswellt yn fwdlyd ac amhosib eu defnyddio.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen gwella cyfleusterau ledled y sir i ddarparu buddion cadarnhaol i iechyd a lles cymunedau Powys.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Llewyrchus: "Rwyf wrth fy modd fod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau ac rwy'n siŵr fod yr ysgol a'r cymunedau chwaraeon yn yr ardal hon am groesawu ailwampio'r cyfleuster hwn sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson.

"Mae'r prosiect hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau hamdden o ansawdd da, sy'n gynhwysol a chwbl hygyrch i gymunedau ym Mhowys. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddarparu'r grant a sicrhau fod ailwampio'r maes hwn yn bosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Un o'r nodau yn y Strategaeth a ddiweddarwyd yn ddiweddar ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella hawliad a phrofiad y dysgwr.

"Bydd y maes sydd wedi ei ailwampio, yn gwella'r cyfleusterau yn y ganolfan, gan helpu'r cyngor i fodloni'r nod hwn. Nid yn unig fydd aelodau'r gymuned yn elwa o'r gwelliannau i'r maes hwn, ond bydd hefyd yn darparu arwyneb pob tywydd i helpu dysgwyr i wella eu sgiliau chwaraeon a'u llesiant."

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal yng Ngogledd Powys ar gyfer Freedom Leisure: "Mae'n ffantastig gweld y buddsoddi hwn mewn cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Caereinion ac edrychwn ymlaen at groesawu'r gymuned leol i ddefnyddio'r maes newydd sbon am flynyddoedd maith i ddod. Gallwn gymhwyso ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon drwy archebion sengl neu niferus, ac anogwn y sawl sydd am roi cynnig arni i gysylltu â'r ganolfan ar 01938 810634 neu caereinion@freedom-leisure.co.uk."

Dywedodd Huw Lloyd Jones, Pennaeth Ysgol Bro Caereinion: "Fel ysgol rydym ni wrth ein boddau â'r ailwampio o'n maes red gra. Mae ein myfyrwyr yn defnyddio'r maes yn ystod gwersi AG, yn ystod amser cinio ac mewn clybiau ar ôl ysgol. Ers gosod arwyneb newydd ar y maes, rwy'n ymwybodol fod galw mawr amdano gan glybiau lleol, ac mae hynny'n newyddion gwych i'n cymuned." 

Dylai clybiau neu sefydliadau sydd am ymholi ymhellach am y maes neu archebu, gysylltu caereinion@freedom-leisure.co.uk neu ffoniwch Canolfan Hamdden: 01938 810634.