Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

A fydd gen i Weithiwr Cymdeithasol?

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol gyda phob plentyn sy'n derbyn gofal a'i swydd ef/hi yw gwneud yn siwr bod pethau yn eu lle ar gyfer dy holl anghenion.  Dylai dy Weithiwr Cymdeithasol gysylltu â thi'n aml er mwyn gwneud yn siwr dy fod yn hapus a dy fod yn cael gofal da. 

Beth yw fy nghynllun gofal?

Yn dy gynllun gofal bydd yr holl fanylion am y pethau sy'n mynd i gael eu gwneud i dy helpu yn cael eu cofnodi.  Bydd dy Weithiwr Cymdeithasol yn ysgrifennu am dy anghenion addysg, iechyd a chrefyddol, sut y byddi di'n gallu parhau gyda dy hobiau a'r gweithgareddau rwyt ti'n eu mwynhau ac hefyd cynllunio am sut i gadw mewn cysylltiad gyda dy deulu a'th ffrindiau.  Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn trafod dy gynllun gofal gyda thi ac yn gwneud yn siwr bod dy ddymuniadau a dy farn yn cael eu cynnwys.