Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adnewyddu ymrwymiad i gefnogi personél y fyddin a chynfilwyr a'u teuluoedd

Cllr Matthew Dorrance and Maj Tim Hearne signing the covenant

18 Rhagfyr 2023

Cllr Matthew Dorrance and Maj Tim Hearne signing the covenant
Cafodd addewid i gefnogi'r rheini sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ei adnewyddu gan Gyngor Sir Powys.

Cafodd yr ymrwymiad ei wneud yn ystod derbyniad a gynhaliwyd yn Ysgol Milwyr Traed Brwydr Aberhonddu yn Aberhonddu, pan wnaeth y cyngor hefyd gasglu gwobr efydd Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr Amddiffyn.

Arwyddodd y cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2013 yn gyntaf, ond cafodd ei addewid ei adnewyddu'r mis diwethaf ar ôl cyflwyno Dyletswydd Cyfreithiol y Cyfamod yn 2022.

Mae'n ofynnol, yn ôl y dyletswydd cyfreithiol, fod cyrff cyhoeddus yn talu sylw penodol at sut y maen nhw'n darparu gofal iechyd, addysg a thai i bersonél y fyddin, cynfilwyr a'u teuluoedd.

Arwyddwyd yr addewid gan y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a'r Uwchgapten Tim Hearne, ar ran yr Is-gyrnol Rupert Anderson, Swyddog Llywodraethol IBS.

Gwnaeth y cyngor hefyd gasglu ei wobr efydd ERS, sef cydnabyddiaeth ei fod yn agored i gyflogi cynfilwyr y Lluoedd Arfog, milwyr wrth gefn, hyfforddwyr cadetiaid a gwŷr a gwragedd neu bartneriaid militaraidd.

"Roeddwn wrth fy modd o allu adnewyddu ein hymrwymiad i gefnogi aelodau cymunedau'r Lluoedd Arfog yn rhagweithiol yma ym Mhowys," dywedodd y Cynghorydd Dorrance.   "Maen nhw'n gwneud cyfraniad pwysig i bob agwedd ar fywyd yn y sir ac fel cyngor rydym ni'n falch o allu helpu'r rheini sy'n ein gwasanaethau ni, neu sydd wedi ei gwasanaethu ni, a'u teuluoedd.

"Rwyf hefyd yn falch ein bod ni wedi cael cydnabyddiaeth am fod yn agored i gyflogi pobl â chysylltiadau militaraidd, sy'n benderfyniad amlwg yn yr hinsawdd recriwtio cyfredol."

Mae'r cyfamod yn datgan na ddylid gwahaniaethu yn erbyn y rheini sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, na'u teuluoedd, ac mewn rhai amgylchiadau y dylid rhoi 'ystyriaeth arbennig' iddynt yn enwedig os ydynt wedi dioddef anaf neu brofedigaeth. 

Ymhlith y rheini ddaeth i'r derbyniad roedd aelodau Partneriaeth Rhanbarthol y Lluoedd Arfog, yn cynrychioli'r Adran Waith a Phensiynau, Grŵp Colegau NPTC, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Brigâd 160 y Milwyr Traed (Cymru), Elusen y Lluoedd Arfog: SSAFA; SSCE Cymru, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys. Caiff Partneriaeth Rhanbarthol y Lluoedd Arfog ei chefnogi gan Dîm Adfywio'r cyngor. 

LLUN: Y Cynghorydd Matthew Dorrance a'r Uwchgapten Tim Hearne yn arwyddo'r cyfamod.