Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy i elwa o lwybr mwy diogel i'r ysgol

Image of a cycle path sign

19 Rhagfyr 2023

Image of a cycle path sign
Mae gwaith i wella'r llwybr troed a'r hygyrchedd at Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy ar fin mynd rhagddo yn gynnar yn y flwyddyn newydd fel rhan o brosiect Teithio Llesol, Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Cafodd y llwybrau troed presennol eu dynodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol gan y gymuned a'r ysgol, fel rhai gwael neu anaddas ar gyfer teithiau cerdded, yn enwedig i'r rheini a oedd yn teithio i'r ysgol ac yn ôl. Cafodd y prosiect ei gynllunio i fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwella mynediad i'r ysgol a hwn yw'r cam cyntaf wrth ddatblygu rhwydwaith teithio llesol lleol ehangach ar hyd a lled Aberhonddu.

Bydd y cynllun yn gwella darpariaeth teithio llesol i gerddwyr drwy uwchraddio'r llwybrau presennol ar Ffordd Pendre a Chlos Pendre.

Bydd y prosiect yn uwchraddio ac ehangu'r llwybr troed presennol ar Glos Pendre tuag at yr ysgol a bydd yn gwneud gwelliannau i ddiogelwch cerddwyr ger cyffordd Ffordd Pendre/Clos Pendre. Bydd y cynllun hefyd yn ehangu a gwella'r llwybr troed a chael gwared ar arwynebau anwastad presennol (cerrig unionsyth a chrwn) a sefydlu ail groesfan i gerddwyr ar Ffordd Pendre. Bydd y groesfan newydd yn cael ei chysylltu â'r groesfan gyfredol i gerddwyr, felly pan fydd un set o oleuadau'n newid bydd y llall yn gwneud yr un peth.

Caiff gwelliannau eu gwneud hefyd i'r llwybr troed i gerddwyr sy'n croesi'r fynedfa i faes parcio'r gadeirlan.

"Bydd y prosiect hwn; Teithio Llesol Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Aberhonddu, yn gwneud gymaint o wahaniaeth gadarnhaol i deuluoedd â phlant yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy." Dywed y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Nid yn unig fydd y gwelliannau i'r isadeiledd a'r mynediad yn ei gwneud hi'n fwy diogel i gerdded i'r ysgol, ond fe fydd hefyd yn annog teuluoedd i adael y car gartref, gwella iechyd a llesiant, lleihau allyriadau carbon a helpu i wrthsefyll newid hinsawdd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau'n glir fod yn rhaid i deithio llesol fod yn ddewis naturiol o ran teithiau byr o ddydd i ddydd, neu fel rhan o daith hirach, ar y cyd â dulliau eraill mwy cynaliadwy, a bydd y buddsoddi parhaus i lwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, fel y prosiect hwn yn Aberhonddu, yn ein helpu ni i gyflawni'r weledigaeth hon."