Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adwaith amodol i'r gyllideb

Cllr David Thomas

21 Rhagfyr 2023

Cllr David Thomas
Nid yw cynnydd o lai na thri y cant yn setliad dros dro llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i fodloni'r pwysau difrifol y mae Cyngor Sir Powys yn eu hwynebu.

Dywedwyd wrth y cyngor heddiw (dydd Mercher, 20 Rhagfyr) y byddai ei gyllid blynyddol yn 2.8% ar gyfer y flwyddyn 2024/25 - llai na'r cyfartaledd Cymreig o 3.1%.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Roedd y cyngor yn gwybod bod y setliad llywodraeth leol hwn yn mynd i fod yn heriol ac mae'r cyhoeddiad heddiw wedi cadarnhau hyn.

"Mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol difrifol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a'r dyfodol rhagweladwy, pwysau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn yn darparu gwasanaethau am sawl blwyddyn.

"Mae'n anochel y bydd y pwysau hyn yn newid y ffordd rydym yn gweithredu, ni fydd y cyngor sydd gennym heddiw yn fforddiadwy yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni addasu os ydym am oroesi a rhan o gynllunio ar gyfer y dyfodol yw gwrando ar bobl Powys.

"Nid yw Powys ar ei phen ei hun yn wynebu dyfodol ariannol llwm, mae llywodraeth leol ledled Cymru yn wynebu'r un pwysau difrifol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud y bydd cynghorau yng Nghymru yn wynebu diffyg ariannol amcangyfrifedig o £432m.

"Bydd chwyddiant a chynnydd yn y galw am ein gwasanaethau yn arwain at gostau ychwanegol o dros £20m yn ein hwynebu y flwyddyn nesaf yn unig. Ni fydd yr arian ychwanegol y byddwn yn ei dderbyn yn talu am y costau hyn. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd a allai weld gwasanaethau'n cael eu lleihau neu eu hailgynllunio yn ogystal â chynnydd yn y dreth gyngor."

Yn gynharach y mis hwn, lansiodd y cyngor arolwg o'i gyllideb ac mae bellach yn annog pobl Powys, busnesau a defnyddwyr gwasanaethau i rannu eu barn fel rhan o'i broses o osod cyllideb.

"Rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol a dim ond y cam cyntaf yn y broses honno yw'r ymgysylltiad cyllidebol," meddai'r Cynghorydd Thomas.

"Rydym wedi ymrwymo i drafodaeth lawn a gonest gyda phobl Powys a defnyddwyr gwasanaethau drwy gydol y cyfnod heriol hwn."

Mae'r arolwg i'w weld trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol www.haveyoursaypowys.wales/budget-survey-2023 ac mae ar gael mewn llyfrgelloedd. 7 Ionawr yw'r dyddiad cau.