A fydd rhaid i mi newid ysgol?
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i ofalwr maeth sy'n byw'n eithaf agos fel nad oes rhaid i ti newid ysgol. Efallai bydd angen i ti ddal bws ysgol neu gael dy yrru mewn car gan dy ofalwr. Weithiau ni fydd hi'n bosibl aros yn yr un ysgol a bydd dy Weithiwr Cymdeithasol yn siarad â thi am hyn.
A fydda' i'n gallu dal i wneud gweithgareddau ar ol ysgol a mynd ar dripiau ysgol?
Bydd dy ofalwr maeth a gweithiwr cymdeithasol yn dy annog i ymuno â llawer o weithgareddau os wyt ti am wneud hynny. Bydd dy Ofalwr Maeth yn cael arian i dalu i ti barhau gyda'r gweithgareddau rwyt ti'n eu mwynhau neu i roi dro ar bethau newydd.
Beth alla' i wneud os nad wyf fi'n hapus gyda phethau?
Os wyt ti'n bryderus neu'n anhapus galli di siarad gyda dy weithiwr cymdeithasol, gofalwr maeth, athro/athrawes neu eiriolwr. Byddant yn barod i wrando ac i wneud eu gorau i dy helpu. Galli di siarad â nhw pryd bynnag rwyt ti eisiau a bob hyn a hyn bydd pawb yn cwrdd i drafod dy gynllun gofal a sut rwyt ti'n teimlo.