Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymgynghoriad Busnes

New money

5 Ionawr 2024

New money
Mae busnesau Powys yn cael cyfle i roi sylwadau ar gyllideb refeniw'r cyngor sir ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Fel rhan o ymarfer ymgynghori ar-lein, mae'r cyngor sir yn gwahodd busnesau i roi sylwadau ar gyllideb refeniw 2024/2025.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'r gyllideb yn bwysig i fusnesau ledled y sir a thrwy roi cyfle i fusnesau fynegi eu barn ar-lein mae pawb yn cael yr un cyfle i roi eu sylwadau ym mha le bynnag y maen nhw wedi'u lleoli."

Estynnir gwahoddiad i'r rhai sydd â diddordeb i ymweld â gwefan y Cyngor: http://www.powys.gov.uk a chlicio'r ddolen Pwyllgorau a Chyfarfodydd y Cyngor/Agenda'r Cabinet 16 Ionawr 2024, neu ddefnyddio'r ddolen uniongyrchol isod:

https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=137&MId=7533

fydd yn mynd â chi yn syth at bapurau'r Cabinet, sy'n cynnwys holl fanylion cyllideb arfaethedig y Cyngor (ar gael o 9 Ionawr).

Dylid anfon pob ymateb i'r ymgynghoriad at y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, Neuadd Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG i'r diben hwn erbyn 15 Chwefror 2024.

Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei lunio, a bydd yn rhan o'r ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad, pan gaiff y gyllideb ei hystyried gan y Cyngor Llawn ar 22ain Chwefror.