Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Credyd Pensiwn: Ydych chi'n colli allan?

An elderly woman counting her money

8 Ionawr 2024

An elderly woman counting her money
Wyddoch chi yr amcangyfrifir fod gan ryw 80,000 o bensiynwyr ledled Cymru hawl i Gredyd Pensiwn, ond nid ydynt yn ei hawlio?

Dim ond ychydig o funudau sydd eu hangen i wirio a ydych chi'n derbyn popeth sy'n ddyledus ichi.

Mae Cyngor Sir Powys yn annog pensiynwyr i ddysgu rhagor am y Credyd Pensiwn maent yn colli allan arno efallai.

Mae Credyd Pensiwn yn golygu nad oes rhaid i bobl fyw ar lai na £201.05 yr wythnos ar gyfer pobl sengl, neu £306.85 ar gyfer cyplau. Ar ben hynny, hwyrach y bydd pobl yn gallu cael cymorth gyda chostau tai, treth y cyngor, ac os ydych chi dros 75 oed, trwydded teledu am ddim.

Hefyd, os bydd yr unigolyn wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, hwyrach y bydd ganddo hawl i arian ychwanegol os mae wedi gwneud darpariaeth o ryw fath tuag at ymddeol, megis cynilion neu bensiwn preifat. Yr enw ar hyn yw'r Credyd Cynilion a gall olygu hyd at £15.94 ar gyfer person sengl neu £17.84 ar gyfer cwpl.

"Fedra i ddim pwysleisio digon, y gwahaniaeth y gall cyfaill neu berthynas ei wneud trwy wneud ychydig o waith ymchwil ar ran rhywun mewn oed, i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael," meddai'r Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys.

"Efallai bod llawer o bobl yn colli allan ar Gredyd Pensiwn, oherwydd maent yn credu, ar gam efallai, nad yw'n berthnasol iddyn nhw. Hwyrach y byddwch yn derbyn arian ychwanegol, hyd yn oed os ydych chi'n berchen ar eich cartref eich hun, neu os oes gennych chi gynilion."

Ewch i Cyfrifiannell Credyd Pensiwn - GOV.UK i weld yr hyn y gallwch ei hawlio efallai.

Gellir hawlio'r hyn sy'n ddyledus ar-lein yma: https://www.gov.uk/credyd-pensiwn neu drwy ffonio llinell hawlio Credyd Pensiwn, drwy ffonio rhif Rhadffôn 0800 99 1234.