Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys: Dweud eich dweud ar ddogfen bwysig

Image of housing set in countryside

8 Ionawr 2024

Image of housing set in countryside
Paratowyd dogfen sy'n nodi materion allweddol a sbardunau ar gyfer newid fel rhan o waith ar gynllun newydd a fydd yn llywio graddfa a lleoliad datblygiadau newydd o fewn y sir yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn cymryd y camau cychwynnol tuag at baratoi ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd, fydd yn cwmpasu Powys gyfan ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn nodi cynigion a pholisïau defnydd tir y cyngor ar gyfer datblygu tir yn ei ardal yn y dyfodol. Bydd yn cwmpasu'r cyfnod o 15 mlynedd hyd at 2037 a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar ôl ei fabwysiadu.

Er mwyn llywio'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, mae'r cyngor wedi paratoi dogfen sy'n nodi'r materion allweddol a'r sbardunau ar gyfer newid, yn ogystal â drafft arfaethedig o weledigaeth ac amcanion ar gyfer y Cynllun.

Byddai'r cyngor yn croesawu adborth gan drigolion, tirfeddianwyr, datblygwyr, cyflogwyr, busnesau a sefydliadau, grwpiau lleol a chynghorau cymuned i sicrhau fod yr holl faterion allweddol perthnasol i gynllunio datblygu ym Mhowys wedi eu hystyried ac os yw'r weledigaeth a'r amcanion yn addas.

Yn ôl y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae'r ddogfen hon, sy'n nodi'r materion allweddol, y weledigaeth arfaethedig a'r amcanion ar gyfer y cynllun datblygu i Bowys yn y dyfodol, yn rhoi cyfle amserol i bawb sydd â diddordeb i gael dweud eu dweud a dylanwadu'n gynnar ar y broses o sicrhau canlyniadau cynllunio cadarn."

I weld y ddogfen Materion Allweddol, Amcanion a Gweledigaeth, ac i gyflwyno eich sylwadau, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/cdll-newydd-powys

Neu, mae copïau o'r dogfennau a'r ffurflenni i'w cwblhau i gyflwyno sylwadau ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol: Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Os ydych chi'n ymweld â'r lleoliadau hyn, cysylltwch â'r llyfrgell ymlaen llaw i wneud apwyntiad i weld y ddogfen ymgynghori. Mae'r manylion cyswllt a'r oriau agor ar gyfer pob llyfrgell ar gael yma https://www.storipowys.org.uk/?locale=cy

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Sul 28 Ionawr.

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiad y CDLl Newydd, gan gynnwys digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu, cofrestrwch ar: https://ldp.powys.gov.uk/login, porth ymgynghori'r CDLl Newydd.