Beth yw cam-drin plant?

Gall cam-drin plant gynnwys esgeuluso, cam-drin emosiynol, cam-drin corfforol, cam-drin rhywiol, neu gam-drin ariannol.

 

Esgeulustod yw lle mae oedolion yn  methu'n gyson â diwallu anghenion sylfaenol plentyn. Gall hyn olygu bod rhiant neu ofalwr gofal yn methu â rhoi bwyd, lloches a dillad digonol, methu ag amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol, neu'n methu â sicrhau bod plentyn yn cael gofal neu driniaeth feddygol briodol.

 

Cam-drin emosiynol yw lle mae oedolion yn trin plentyn yn wael dros gyfnod o amser mewn ffyrdd sy'n niweidio eu datblygiad emosiynol, gan wneud iddynt deimlo:

  • yn ofnus
  • yn ansicr
  • yn ddiwerth ac ac fel pe na bai neb yn eu caru

 

Cam-drin corfforol yw lle mae rhywun yn anafu neu'n brifo plentyn. Mae hyn yn cynnwys pob math o niwed corfforol gan gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, boddi, neu fygu.

 

Cam-drin rhywiol yw lle mae rhywun yn gwneud i blentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'n defnyddio grym ai peidio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, neu weithgareddau lle nad oes cyffwrdd neu gyswllt. Mae hyn yn golygu cynnwys plant wrth edrych ar ddeunydd pornograffig, neu wneud deunydd felly, neu wylio gweithgareddau rhywiol.

 

Cam-drin Ariannol

Mae hwn yn cynnwys:

  • dwyn arian neu eiddo arall y plentyn;
  • twyllo rhywun;
  • Rhoi rhywun o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
  • Camddefnyddio arian neu eiddo arall

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu