Beth yw cam-drin plant?
Gall cam-drin plant gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol neu esgeulustod.
- Cam-drin Corfforol mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn niweidio neu ddolurio plentyn - mae hyn yn cynnwys pob math o niwed corfforol.
- Cam-drin Rhywiol mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn gorfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un ai os ydynt yn defnyddio grym neu beidio.
- Cam-drin Emosiynol mae hyn yn digwydd pan fo oedolion yn trin plentyn dros gyfnod o amser mewn ffyrdd sy'n niweidio'u datblygiad emosiynol gan wneud iddynt deimlo'n:
- ofnus
- ansicr
- di-werth a theimlo nad oes neb yn ei garu
- Esgeulustod mae hyn yn digwydd pan fo oedolyn yn methu â diwallu anghenion sylfaenol plentyn, mae hyn yn cynnwys peidio â darparu:
- bwyd
- lloches
- dillad
- gofal meddygol
- amddiffyn rhag perygl