Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddhad Gwelliannau

Rhyddhad Gwelliannau: Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod llawer o fusnesau yn ystyried bod y system ardrethi annomestig yn ddatgymhelliad i fuddsoddi mewn gwelliannau i eiddo, gan y gallai unrhyw gynnydd yng ngwerth ardrethol eiddo a fydd yn deillio o hynny arwain at fil uwch. Mae rhyddhad gwelliannau wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystr posibl hwn i dwf a buddsoddi yn y sylfaen drethu, o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes, drwy roi rhyddhad rhag yr effaith y byddai cynnydd mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i'r gwelliannau hynny yn ei chael ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig am gyfnod o 12 mis. Cymhwysir y rhyddhad drwy gyfrifo swm yr ardrethi annomestig y gellir ei godi ar gyfer yr eiddo perthnasol fel petai'r gwerth ardrethol ar y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw yn cyfateb i'r gwerth ardrethol hwnnw llai'r cynnydd mewn gwerth ardrethol y gellir ei briodoli i'r gwaith gwella sy'n gymwys. Bydd hyn yn sicrhau y gall busnesau a thalwyr ardrethi eraill ddechrau gweld manteision y gwelliannau a wneir ganddynt, cyn i'w bil ardrethi annomestig gynyddu. 

Bydd rhyddhad gwelliannau yn gymwys i'r rhestrau ardrethu lleol a chanolog. Bydd yn rhaid bodloni dau amod i fod yn gymwys i gael y rhyddhad. Yn gyntaf, rhaid i'r gwelliannau ateb y diffiniad o waith cymhwysol. Yn ail, rhaid bod yr eiddo wedi bod yn cael ei feddiannu gan yr un talwr ardrethi yn y cyfnod ers i'r gwaith cymhwysol ddechrau. Diffinnir yr amodau hyn yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023 a chânt eu hesbonio'n fanylach yn y canllawiau hyn.

Bydd y rhyddhad ar waith o 1 Ebrill 2024 ac ar gael hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2029.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu