Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyhoeddi cyllideb ddrafft

Image of money

11 Ionawr 2024

Image of money
Rhybuddiodd y Cabinet heddiw, wrth iddo gyhoeddi ei gyllideb ddrafft, bod angen penderfyniadau anodd er mwyn mantoli cyllideb Cyngor Sir Powys ar gyfer 2024/25.

Mae'r cyngor yn wynebu costau ychwanegol o dros £18m ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig, oherwydd chwyddiant a chynnydd yn y galw am Lywodraeth Cymru yn ddigonol i fodloni'r pwysau difrifol y mae'r cyngor yn eu hwynebu.

Er mwyn mantoli'r gyllideb, mae'r Cabinet yn ystyried £11m o arbedion, argymell arbedion o 6.5% yn y dreth gyngor am wasanaethau'r cyngor, gydag 1% arall i gefnogi'r cynnydd o £1.1m yn ardoll flynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub a godir ar y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'r cyngor, sydd unwaith eto'n datblygu ei gynlluniau ariannol mewn cyd-destun economaidd hynod heriol, yn wynebu pwysau ariannol difrifol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a'r dyfodol rhagweladwy.

"Nid yw Powys ar ei phen ei hun yn wynebu dyfodol ariannol llwm, mae llywodraeth leol ledled Cymru yn wynebu'r un pwysau difrifol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud y bydd cynghorau yng Nghymru yn wynebu diffyg ariannol amcangyfrifedig o £432m.

"Drwy ein cyllideb ddrafft, rydym yn ceisio cyfyngu ar yr effaith ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen gymaint â ag y gallwno fewn y cyfyngiadau ariannol y mae'r cyngor yn eu hwynebu ond mae'n anochel y bydd rhai gostyngiadau mewn gwasanaethau neu newidiadau i sut neu o ble y caiff gwasanaethau eu darparu.

"Wrth gynnig y cynnydd yn y dreth gyngor, mae'r Cabinet wedi ystyried yn ofalus yr hyn y gall trigolion Powys ei fforddio yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, ynghyd â'r angen parhaus i ateb y galw cynyddol a phwysau cost anochel ar y gwasanaethau lleol hanfodol y maent yn dibynnu arnynt."

Bydd y Cabinet yn ystyried y gyllideb ddrafft ddydd Mawrth, 16 Ionawr. Os caiff ei gymeradwyo, yna bydd y Cyngor Llawn yn ei ystyried ddydd Iau, 22 Chwefror.

Gellir gweld y gyllideb ddrafft yma - https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=137&MId=8074&Ver=4