Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pob lwc i dîm prosiect Hafan Yr Afon

Hafan Yr Afon

15 Ionawr 2024

Hafan Yr Afon
Bydd tîm prosiect a wnaeth gyflenwi adeilad cymunedol Hafan Yr Afon yn y Drenewydd, yn darganfod ddydd Gwener a yw wedi ennill gwobr ragoriaeth ledled y DU.

Mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i ddweud pob lwc i Gontractwyr Adeiladwyr Drenewydd Agored, sef  Architype and Pave Aways, yn rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rheolaeth Adeiladu'r Awdurdod Lleol (RhAALl) 2023, yn Llundain.

Roedd y cyngor yn un o gefnogwyr y prosiect £2.25m, a dderbyniodd ran fawr o'i arian drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cafodd Hafan Yr Afon ei enwi fel yr Adeilad Cymunedol neu Gyhoeddus Gorau yng Nghymru gan y RhAALl ym mis Medi. Hefyd, fe enillodd y teitl o Brosiect Adeiladu'r Flwyddyn 2023 gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, ym mis Mehefin. 

"Rwyf wrth fy modd fod prosiect yr ydym wedi ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi mynd ymlaen i gyflawni'r fath lwyddiant a hoffem ddymuno lwc dda i bawb sy'n cymryd rhan yn Rownd Derfynol RhAALl," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys fwy Llewyrchus.

"Mae Hafan Yr Afon yn profi'i hun i fod yn ased gwirioneddol dda i'r Drenewydd fel lleoliad cymunedol ac mae llawer o breswylwyr yn falch ohono. Mae wedi newid tirlun y dref yn llythrennol.

Mae'r adeilad ynni isel, dau lawr wrth ymyl Afon Hafren, yn cynnwys ystafelloedd cwrdd, caffi, gwybodaeth i dwristiaid a chanolfan ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

"Mae Agor Drenewydd wedi creu rhywbeth arbennig iawn yng Nghanolbarth Cymru sy'n cofleidio cynaliadwyedd a diogelu mannau gwyrdd i'r gymuned eu mwynhau." Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Gwnaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddyfarnu £1.1 miliwn drwy ei rhaglen Trosglwyddo Ased Cymunedol 2 ym mis Chwefror 2918 i Drenewydd Agored, a oedd yn cynnwys trosglwyddo dros 130 erw ar hyd Afon Hafren yn y Drenewydd.

Enillwyr a'r sawl Gafodd Ganmoliaeth Uchel yn RhAALl Cymru 2023: https://www.labc.co.uk/news/labc-wales-winners-highly-commended-2023

LLUN: Hafan Yr Afon, Y Drenewydd.